Y Rug: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Plasdy Cymreig yn ymyl Corwen, Sir Ddinbych yw'r '''Rug''' (ceir y ffurfiau ''Rhug'' a ''Rûg'' weithiau hefyd, yn enwedig mewn ffynonellau Saesneg). Roedd yn ganolfan diwyll…
 
Hoedl a thir, hudoliaeth yw!
Llinell 5:
Roedd perchnogion gwreiddiol Y Rug yn ddisgynyddion i [[Tudur ap Gruffudd Fychan]], Arglwydd [[Gwyddelwern]] ac un o frodyr y Tywysog [[Owain Glyndŵr]]. Priododd Ieuan ap Hywel ap Rhys o'r Rug Wenhwyfar, gor-wyres Tudur ap Gruffudd. Trwy briodas Marged Wen, aeres Ieuan, a Pyrs Salsbri roedd perthynas agos â [[Salbriaid]] [[Bachymbyd]] a [[Lleweni]] hefyd. Daeth Y Rug i feddiant Wynniaid [[Wynnstay]] yn nes ymlaen.<ref>Enid Rowlands (gol.), ''Gwaith Siôn Tudur'', 2 gyfrol (Caerdydd, 1980), cyfrol 2, tud. 61.</ref>
 
Roedd teulu'r Rug yn noddi'r [[Beirdd yr Uchelwyr|beirdd Cymraeg]] o'r 15fed ganrif hyd ganol yr 17eg ganrif pan basiodd y Rug o'i ddwylo. Un o'r beirdd a gai nawdd yn Y Rug yn ail hanner yr 16eg ganrif oedd y clerwr [[Robin Clidro]], o Ddyffryn Clwyd. Canai i Salbriaid Bachymbyd hefyd.<ref>''Gwaith Siôn Tudur'', cyfrol 2, tud. 512.</ref> Canai rai o feirdd mawr eraill y cyfnod yno hefyd, fel [[Tudur Aled]] a [[Siôn Tudur]]. Canodd Tudur Aled [[cywydd|gywydd]] [[marwnad]] i Hywel ap Rhys ap Dafydd ap Hywel o'r Rug sy'n agor gyda phennill sy'n cynnwys y llinell adnabyddus "Hoedl a thir, hudoliaeth yw":
 
:Duw gwyn! er digio ennyd,
:Ai difa'r iaith yw dy fryd?
:Hynt oedd oer, hwnt, a dderyw,—
:Hoedl a thir, hudoliaeth yw!<ref>T. Gwynn Jones (gol.), ''Gwaith Tudur Aled'', 2 gyfrol (Caerdydd, 1926), cyfrol 2, cerdd LXXXIV.</ref>
 
== Capel y Rug==