Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Protagoras"

Ychwanegwyd 162 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
ffynhonnell
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | dateformat = dmy }} Athronydd Groegaidd cyn-Socratig a flodeuai yn y 5ed ganrif CC|5...')
Tagiau: 2017 source edit
 
(ffynhonnell)
Tagiau: 2017 source edit
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | dateformat = dmy }}
Athronydd Groegaidd cyn-Socratig a flodeuai yn y [[5ed ganrif CC|5g CC]] oedd '''Protagoras''' (tua 490 CC – tua 420 CC).<ref>Anthony Preus, ''Historical Dictionary of Ancient Greek Philosophy'' (Llundain: Rowman & Littlefield, 2015), t. 329.</ref> Ef oedd y cyntaf o'r [[Soffydd]]ion.
 
Ganwyd yn [[Abdera]], yn [[Thracia]]. Mynegir ei fod mor dlawd yn nechrau ei fywyd fel y dilynai yr alwedigaeth o gario coed, pryd y darfu i [[Democritus]], a foddhawyd gymaint wrth ei weld yn rhwymo i fyny ei fwndel coed mor gywrain, ei gymryd yn un o'i ysgolheigion.
 
Ymddengys taw Protagoras oedd y cyntaf i ddysgu areithyddiaeth fel celfyddyd. Os gellir casglu oddi wrth yr enghraifft a roddir o'i waith gan Blaton yn ei ''Protagoras'', yr oedd yn meddu ar ddychymyg bywiog a meistrolaeth fawr ar iaith. Yr oedd yn dra chyfarwydd yn llenyddiaeth ei wlad, yn enwedig yng ngweithiau'r hen feirdd, y rhai a ddyfynid ganddo yn aml yn ei areithiau. Mynegir taw efe a ddysgodd [[Isocrates]], a chyfeirir at ei ymarferiadau areithyddol gan [[Cicero]]. Protagoras oedd y cyntaf i ddyfod â rhaniadau celfyddgar i mewn i'w rethreg. Ymddengys ei fod wedi ysgrifennu gweithiau ar iaith ac areithyddiaeth. Meddai ar ddychymyg bywiog a ffrwythlon, cof rhyfeddol, a huodledd mawr; ond yr oedd yn hunanol, haerllug, a rhyfygus. Siaradai am ei gydymgeiswyr am enwogrwydd gyda dirmyg, ac amdano'i hun gyda graddau o hyder a dueddai i gynhyrfu edmygedd y bobl gyffredin.
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Testun Y Gwyddoniadur Cymreig}}
71,655

golygiad