Oes yr Haearn yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
enghreifftiau
Llinell 12:
 
Diweddodd y cyfnod cynhanesyddol pan gyrgaeddodd y Rhufeiniaid, a ddechreuodd eu hymgyrchoedd yn erbyn y llwythau Cymreig gydag ymosodiad ar y [[Deceangli]] yn y gogledd-ddwyrain yn [[48]] OC.. Bu ymladd chwerw yn erbyn y [[Silwriaid]] a'r [[Ordoficiaid]], ond erbyn tua [[79]] roedd y goncwest wedi ei chwblhau. Mae adroddiad yr hanesydd Rhufeinig [[Tacitus]] yn rhoi tipyn o wybodaeth am Gymru yn y cyfnod yma, er enghraifft fod Ynys Môn i bob golwg yn fan arbennig i'r [[Derwydd|Derwyddon]]. Efallai fod effaith y Rhufeiniaid ar y brodorion yn amrywio o un rhan o Gymru i'r llall; er enghraifft mae tystiolaeth fod rhai bryngeiri, megis Tre'r Ceiri, yn parhau i gael eu defnyddio yn y cyfnod Rhufeinig.
 
==Safleoedd Oes yr Haearn yng Nghymru==
*[[Llyn Cerrig Bach]] ar [[Ynys Môn]]: eitemau a godwyd o'r llyn yn 1943
*[[Llyn Fawr]] ym mhen draw [[Cwm Rhondda]]: eitmau o'r llyn
*[[Bryngaer|Bryngaearu]] megis [[Pen Dinas]] ger [[Aberystwyth]] a [[Tre'r Ceiri]] ar Benrhyn [[Llŷn]]
 
 
== Llyfryddiaeth ==