Oes yr Haearn yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
enghreifftiau
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
 
Yn o nodweddion y cyfnod yma oedd adeiladu nifer fawr o [[Bryngaer|fryngeiri]], er enghraifft [[Pen Dinas]] ger [[Aberystwyth]] a [[Tre'r Ceiri]] ar Benrhyn [[Llŷn]]. Y fryngaer gynharaf sy'n bendant yn dyddio o Oes yr Haearn, i bob golwg, yw [[Castell Odo]], bryngaer fechan ger [[Aberdaron]], Llŷn, sy'n dyddio i tua 400 CC.. Ceir y bryngeiri mwyaf yn y dwyrain, gyda rhai hefyd ar diroedd is y gogledd-orllewin. Yn y de-orllewin, mae bryngeiri yn niferus iawn ond yn llawer llai, y rhan fwyaf ag arwynebedd o lai na 1.2 hectar.
 
[[Delwedd:LlynCerrigBach.JPG|bawd|chwith|250px|Llyn Cerrig Bach]]
 
Un o'r darganfyddiadau pwysicaf o'r cyfnod oedd casgliad mawr o eitemau oedd wedi eu hoffrymu i'r duwiau yn [[Llyn Cerrig Bach]] ar [[Ynys Môn]]. Cafwyd hyd i'r rhain yn [[1943]] wrth baratoi tir ar gyfer adeiladu maes awyr newydd. Roedd y darganfyddiadau yn cynnwys arfau, tariannau, cerbydau a'u hoffer atodol, cadwyni ar gyfer caethweision ac eraill. Roedd llawer wedi eu torri neu eu plygu yn fwriadol. Ystyrir y rhain yn un o'r darganfyddiadau pwysicaf ym Mhrydain o waith metel [[Diwylliant La Tène]]. Mae crochenwaith, ar y llaw arall, yn brin yng Nghymru yn y cyfnod hwn, a'r rhan fwyaf ohono wedi ei fewnforio.
 
[[Delwedd:LlynCerrigBach.JPG|bawd|chwith|250px|Llyn Cerrig Bach]]
 
Yn draddodiadol, cysylltir diwylliant La Tène a'r [[Y Celtiaid|Celtiaid]], a'r farn gyffredinol hyd yn ddiweddar oedd fod ymddangosiad y diwylliant yma yn dangos mewnlifiad mawr o bobl newydd oedd yn siarad iaith Geltaidd, ac a ddisodlodd y boblogaeth oedd yno ynghynt. Y farn gyffredinol erbyn hyn yw na ddigwyddodd hyn ar raddfa fawr, ac mai'r diwylliant a newidiodd yn hytrach na'r bobl.