Yn y rhan fwyaf o gyd-destunau mae'r term ''analytig'' yn gyfwerthgyfystyr â'r term ''ynysig'' felly mae iaith ynysig hefyd yn analytig. Ond nid yw ieithoedd fel [[Saesneg]] sydd ar ochr analytig y raddfa yn ynysig gan eu bod yn defnyddio ychydig o [[morffoleg|forffoleg]] i ddangos amser ar ferfau a'r lluosog ar enwau. Felly mae gan Saesneg [[morffem|mpw]] sydd yn uwch nag un ac felly'n [[iaith synthetig|synthetig]]. Serch hyn mae [[Saesneg]] yn dangos tueddau ynysig yn ei defnydd eang o [[geiryn|eirynnau]].