Y Carneddau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 44:
Yn ystod y cyfnod [[Neolithig]], ymddengys mai o gwmpas godreuon y Carneddau yr oedd presenoldeb dynol. Ymysg yr olion o'r cyfnod hwn mae siambr gladdu [[Maen y Bardd]] ar ochr ddwyreiniol y Carneddau, ac olion tŷ yn [[Llandegai]] ger [[Bangor]]. Yn ystod rhan gyntaf [[Oes yr Efydd]] roedd y tywydd yn gynhesach ac yn sychach, gan wneud y tir uchel yn fwy atyniadol. Ceir llawer o weddillion tai a chladdfeydd o'r cyfnod hwn, er enghraifft yng Ngwm Anafon uwchben [[Abergwyngregyn]] ac yng Nghwm Ffrydlas uwchben [[Bethesda]]. Yn y cyfnod yma y codwyd y meini hirion megis y rhai ym [[Bwlch y Ddeufaen|Mwlch y Ddeufaen]], ac y codwyd llawer o'r carneddi a welir ar y mynyddoedd a bryniau, er enghraifft ar [[Drosgl]].
 
Nid oes cymaint o olion o [[Oes yr Haearn]] ar y tir uchel; nid oedd y tywydd mor ffafriol erbyn hyn ac roedd mawnog yn dechrau ffurfio. Gall fod rhai o'r olion tai ar lechweddau Moel Faban ger Bethesda ac ym Mhant y Griafolen islaw Llyn Dulyn yn dyddio o'r cyfnod yma. Ceir cryn nifer o [[Bryngaer|fryngeiri]] ar y bryniau isaf, er enghraifft [[Braich-y-Dinas]] ger [[Penmaenmawr]] a [[Pen y Gaer]] gerllaw [[Llanbedr-y-cennin]]. Adeiladodd y Rhufeiniaid gaer Canovium ([[Caerhun]]) i warchod y groesfan dros [[afon Conwy]], ac roedd [[Ffordd Rufeinig Caer-Segontiwm|ffordd Rufeinig]] yn arwain oddi yma dros Fwlch y Ddeufaen i [[Segontium]].