Y Carneddau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 34:
===Llynnoedd ac afonydd===
 
Ceir cryn nifer o lynnoedd mawr a bach yn y cymoedd rhwng copaon y Carneddau. Cronfeydd dŵr yw nifer o'r rhai mwyaf, megis [[Llyn Cowlyd]], [[Llyn Eigiau]], [[Llyn Dulyn (Carneddau)|Llyn Dulyn]] a [[Ffynnon Llugwy]]. Ymhlith y llynnoedd naturiol mae [[Llyn Geirionnydd]], [[Llyn Crafnant]] a [[Llyn Ogwen]].
 
Mae'r afonydd ar ochr ddwyreiniol y Carneddau yn llifo i lawr i ymuno ag [[Afon Conwy]]. Yn eu plith mae [[afon Crafnant]], [[afon Ddu]], [[afon Porth-llwyd]] ac [[afon Dulyn]]. Yn y de, mae [[afon Llugwy]] yn tarddu o gronfa Ffynnon Llugwy, tra mae nifer a afonydd ar yr ochr orllewinol yn ymuno ag [[afon Ogwen]], megis [[afon Lloer]], [[afon Llafar]] ac [[afon Caseg]]. Ar yr ochr ogleddol, mae'r Afon Goch yn plymio 120 troedfedd dros glogwyn o garreg igneaidd i greu [[Rhaeadr Fawr]], cyn ymuno ag [[afon Anafon]] i greu [[afon Aber]].