Dychan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu fymryn Tagiau: Golygiad cod 2017 |
|||
Llinell 1:
[[Dull llenyddol]] neu ffurf ar [[celfyddyd|gelfyddyd]] yw '''dychan''' sydd ceisio amlygu ffaeleddau a ffolineb ei bwnc a thrwy hynny ei wawdio a'i geryddu, yn aml fel ffordd fwriadol o herian, cynhyrfu, neu ddadlau yn ei erbyn. Gall unigolion, sefydliadau, cymdeithas, gwleidyddiaeth, a chrefydd i gyd fod yn dargedau i ddychan.
[[Dull llenyddol]] neu ffurf ar [[Celf|gelf]] yw '''dychan''', sy'n ceisio amlygu ffolineb neu ynfydrwydd ei bwnc (boed hynny yn unigolion, sefydliadau, gwladwriaethau neu grefydd, a.y.y.b.) i wawdio, fel arfer fel ffordd fwriadol o brofocio neu atal newid. Yn y cymdeithasau [[Y Celtiaid|Celtaidd]], credai pobl y byddai dychan [[prydydd]] (bardd) yn cael effaith gorfforol ar y gwrthrych, megis [[melltith]] neu anffawd, ac yng Nghymru roedd [[canu dychan]] yn rhan nodweddiadol o ganu [[Beirdd y Tywysogion]] a [[Beirdd yr Uchelwyr]]. Mae [[hiwmor]] dychan yn tueddu i fod yn graff, ac yn defnyddio [[eironi]] a hiwmor ''[[deadpan]]''.▼
Math amryffurf o lenyddiaeth yw dychan, a chanddo hanes hir ym marddoniaeth, y ddrama, yr ysgrif, y nofel, a darlunio. Mae'n cwmpasu pob math o [[hiwmor]]: ffraethineb, [[eironi]], gogan, coegni, digrifwch heb wên (''deadpan''), [[hiwmor swreal]], ysmaldod, pryfocio chwareus, a dirmyg chwerw; a sawl genre a dull: dynwarediad, [[parodi]], [[dameg]], [[grotésg]], [[bwrlésg]], a [[ffars]].
== Mathau ==
Dan ddylanwad yr hen Rufeiniaid, dosberthir dychan gan amlaf yn ddau fath: dychan Horasaidd, a enwir ar ôl y telynegwr [[Horas]], a dychan Jwfenalaidd, a enwir ar ôl y bardd [[Juvenal]].
Gellir hefyd dosbarthu llenyddiaeth ddychanol yn uniongyrchol ac anuniongyrchol. Yn y dull uniongyrchol, siarada'r awdur neu'r adroddwr yn uniongyrchol â'r darllenydd. Yn nychan anuniongyrchol, amlyga'r awdur ei ddigrifwch a'i ddadleuon drwy draethiad a chynllun y stori.<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/art/satire |teitl=Satire |dyddiadcyrchiad=15 Ebrill 2018 }}</ref>
=== Dychan Horasaidd ===
Nodir dychan Horasaidd gan lais tringar, goddefol a ffraeth. Ei brif fwriad yw difyrru'r gynulleidfa, gan amlaf drwy bigo ar wiriondeb ei bwnc mewn ffordd ysgafn.
=== Dychan Jwfenalaidd ===
Dull chwerw, os nid cas, sydd gan ddychan Jwfenalaidd. Nod yr awdur yw lladd ar wendidau a beiau ei darged, ac i fynegi dirmyg a dicter yn ei erbyn.
== Ffurfiau hanesyddol ==
=== Y gwledydd Celtaidd ===
▲
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Dychan| ]]
[[Categori:Hiwmor]]
[[Categori:Llenyddiaeth]]
|