Dychan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu fymryn
Tagiau: Golygiad cod 2017
→‎Ffurfiau hanesyddol: yr Oesoedd Canol, y Dadeni, yr Oleuedigaeth
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 17:
=== Y gwledydd Celtaidd ===
Yn y cymdeithasau [[Y Celtiaid|Celtaidd]], credai pobl y byddai dychan [[prydydd]] (bardd) yn cael effaith gorfforol ar y gwrthrych, megis [[melltith]] neu anffawd, ac yng Nghymru roedd [[canu dychan]] yn rhan nodweddiadol o ganu [[Beirdd y Tywysogion]] a [[Beirdd yr Uchelwyr]].
 
=== Bwystori a ''fabliau'' ===
Un o ffurfiau dychanol [[yr Oesoedd Canol]] oedd y [[bwystori]], a ddefnyddir i ddisgrifio ffaeleddau dynion ar ffurf anifeiliaid. Ffurf debyg oedd y ''fabliaux'', straeon smala a genir gan ''jongleurs'' yng ngogledd-ddwyrain [[Ffrainc]] o'r 12g hyd y 15g. Nodir gan faswedd a serthedd, ac agweddau sy'n groes i egwyddorion yr eglwys a'r bendefigaeth. Addaswyd sawl ''fabliau'' gan [[Giovanni Boccaccio]] yn y ''Decameron'' a [[Geoffrey Chaucer]] yn ''[[The Canterbury Tales]]''.
 
=== Y Dadeni ===
Ceir sawl gwaith dychanol nodedig yn [[llenyddiaeth y Dadeni]], gan gynnwys ''[[Das Narrenschiff]]'' (1494) gan Sebastian Brant a straeon Gargantua a Pantagruel (1532–64) gan [[François Rabelais]].
 
=== Oes Aur yr Oleuedigaeth ===
Dywed yr oedd Oes Aur Dychan yn ystod [[yr Oleuedigaeth]] yn Ewrop, a chyhoeddwyd nifer o weithiau [[rhyddiaith]] ddychanol. Un o'r llenorion amlycaf oedd y Gwyddel [[Jonathan Swift]] a ysgrifennai'r nofel ''[[Gulliver's Travels]]'' (1726) a'r traethawd ''A Modest Proposal'' (1729), a rhoddir y ddau waith hwn yn aml yn enghreifftiau o'r wahaniaeth rhwng dychan Horasaidd (''Gulliver's Travels'') a dychan Jwfenalaidd (''A Modest Proposal'').
 
== Cyfeiriadau ==