Llawdriniaeth ailbennu rhyw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
Tagiau: Golygiad cod 2017
B dol
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 4:
Bydd unigolyn [[trawsrywedd]]ol yn cael llawdriniaeth ailbennu rhyw fel rhan o'r broses ailbennu rhywedd neu [[trawsnewid (trawsrywedd)|drawsnewid]], yn aml ar y cyd â thriniaethau meddygol eraill megis [[cwnsela]], [[seicotherapi]], a [[therapi hormonau]]. Gelwir triniaethau sydd yn newid nodweddion rhyw y frest drwy ychwanegu neu dynnu [[bron]]nau yn "llawdriniaeth uchaf", a thriniaethau sydd yn newid yr [[organau cenhedlu]] yn "llawdriniaeth isaf".<ref name=dys/>
 
Gallai unigolyn sy'n trawsnewid o fod yn [[dyn trawsryweddol|fenyw i fod yn ddyn]] gael [[mastectomi]] i dynnu'r bronnau, [[hysterectomi]] i dynnu'r [[croth|groth]], a salpingo-öofforectomi i dynnu'r [[tiwbiau Ffalopaidd]] a'r [[ofari|ofarïau]]. Gallai gael naill ai mewnosodiad pidyn, ffaloplasti, neu metoidioplasti i gynhyrchu [[pidyn]], a sgrotoplasti a mewnosodiad [[caill|ceilliau]] i gynhyrchu'r ceillgwd a'r ceilliau. Gallai unigolyn sy'n trawsnewid o fod yn [[menyw drawsryweddol|ddyn i fod yn fenyw]] gael orcidectomi i dynnu'r ceilliau a penectomi i dynnu'r pidyn, faginoplasti i gynhyrchu [[gwain]], fylfoplasti i gynhyrchu [[fylfa]], clitoroplasti i gynhyrchu [[clitoris]], mewnosodiad bronnau, a llawdriniaeth i fenyweiddio'r wyneb, hynny yw newid siâp y wyneb fel ei bod yn debycach i fenyw.<ref>{{eicon en}} "[http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/encyclopaedia/g/article/genderdysphoria?locale=en Gender dysphoria]", [[Galw Iechyd Cymru]]. Adalwyd ar 16 Ebrill 2018.</ref>
 
Rhai o'r unigolion cyntaf i dderbyn llawdriniaeth ailbennu rhyw oedd [[Lili Elbe]] a [[Christine Jorgensen]].