Llanddona: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: es:Llanddona
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Mae’r eglwys wedi ei chysegru i [[Sant]] [[Dona]], mab [[Selyf ap Cynan]] o deulu brenhinol [[Teyrnas Powys]]. Dywedir fod yr eglwys wreiddiol yma yn dyddio o tua [[610]]. Ail-adeiladwyd yr eglwys bresennol yn [[1873]]. Yn yr eglwys mae cloch yn dyddio o [[1647]] a chwpan cymun arian yn dyddio o [[1769]], ond gyda chaead o [[1574]].
 
Nodwedd amlycaf yr ardal yw’r mast radio ar fryn uwchben y pentref, sydd i’w weld am filltiroedd. Ychydig i’r gogledd o’r pentref mae [[bryngaer]] o’r enw [[Bwrdd Arthur]], neu "Din Sylwy". Mae maen hir cynhanesyddol i’r gorllewin o’r pentref.
 
Ceir stori adnabyddus am [[Gwrachod Llanddona|Wrachod Llanddona]]. Yn ôl y chwedl daeth cwch heb hwyl na rhwyfau i’r lan yn Nhraeth Coch yn llawn o ddynion a merched. Daethant yn enwog am eu gallu i reibio, yn enwedig gwraig o’r enw Bella Fawr.