Mynyddfor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 11:
''Am y parc coetir yn [[Sir Gaerfyrddin]], gweler [[Parc Coetir y Mynydd Mawr]]. Gweler hefyd [[Mynydd Mawr (y Berwyn)]].''
 
'''Mynyddfor''' yw prif enw un o'r mynyddoedd yng Nghwmwd [[Uwchgwyrfai]] yn [[Eryri]], [[Gwynedd|Ngwynedd]]. Ei uchder uwchben y môr yw 698 o fedrau. Fe'i hadnabyddir hefyd yn y Gymraeg fel Mynydd Mawr, Mynydd y Grug a Mynydd yr Eliffant. Lleoliad ei gopa yw [[cyfeirnod grid]] SH540547. Saif Mynyddfor gerllaw [[Llyn Cwellyn]], gyda'r [[Yr Wyddfa|Wyddfa]] ychydig i'r dwyrain, yr ochr arall i briffordd yr [[A4085]]. I'r gorllewin iddo mae [[Moel Tryfan]] a [[Dyffryn Nantlle]]. Y pentrefi agosaf ato yw [[Betws Garmon]] a [[Rhyd-Ddu]]. Gelwir Mynyddfor yn "Mynydd yr Eliffant" yn lleol, oherwydd tebygrwydd tybiedig i siâp [[Eliffant]] yn gorwedd. Er mai llechweddau grugiog yw'r rhan fwyaf o'r mynydd, mae creigiau Craig y Bera ar ei ochr ddeheuol a Chraig Cwmbychan ar ei ochr ogleddol.
 
Gellir ei ddringo trwy ddilyn llwybr sy'n cychwyn ger fferm Planwydd, ger ochr Rhyd-Ddu o Lyn Cwellyn. Mae hefyd fodd ei ddringo o lwybr sy'n dechrau gerllaw Rhyd-Ddu ei hun. Mae llwybr hwylus hefyd o bentre'r [[Fron]]. Ceir golygfeydd nodedig iawn o Ddyffryn Nantlle a'r Wyddfa o'r copa.