Gorfodaeth filwrol yn y Deyrnas Unedig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Ffeirio Gwybodlen am un o WD using AWB
Llinell 2:
 
== Y Rhyfel Byd Cyntaf ==
Cychwynnodd gwasanaeth gorfodol yn ystod cyfnod y [[Y Rhyfel Byd Cyntaf|Rhyfel Byd Cyntaf]] pan basiodd llywodraeth Prydain Deddf Gwasanaeth Milwrol 1916<ref>The Military Service Act 1916 - HL/PO/PU/1/1916/5&6G5c104</ref>. Nododd y ddeddf fod dynion sengl rhwng 18 a 40 oed yn agored i gael eu galw am wasanaeth milwrol oni bai eu bod yn dynion gweddw gyda phlant neu'n weinidogion crefyddol. Bu system o Dribiwnlysoedd Gwasanaeth Milwrol i ddyfarnu ar hawliadau am eithriad ar sail cyflawni gwaith sifil o bwysigrwydd cenedlaethol, caledi domestig, iechyd a gwrthwynebiad cydwybodol<ref>[http://www.parliament.uk/parliamentary_publications_and_archives/parliamentary_archives/archives____ww1_conscription.cfm CALLED TO ACTIVE SERVICE] adalwyd 16 Mawrth 2018</ref>. Aeth y gyfraith trwy nifer o newidiadau cyn i'r rhyfel ddod i ben. Roedd dynion priod wedi'u heithrio yn y Ddeddf wreiddiol, er y cafodd hyn ei newid ym mis Mehefin 1916. Codwyd y terfyn oedran yn y pen draw i 51 oed. Cafodd cydnabyddiaeth o waith o bwysigrwydd cenedlaethol ei dynhau, ac yn ystod blwyddyn olaf y rhyfel bu rhywfaint o gefnogaeth i'r syniad o beidio ag eithrio clerigwyr<ref>Chelmsford, J. E. "Clergy and Man-Power", ''[[The Times]]'' 15 Ebrill 1918, tud. 12</ref>. Parhaodd gorfodaeth filwrol hyd ganol 1919.
Oherwydd y sefyllfa wleidyddol yn [[Iwerddon]], ni chafodd gorfodaeth ei ddefnyddio yno; dim ond yng [[Cymru|Nghymru]], [[Lloegr]] a'r [[Yr Alban|Alban]].