Sevilla: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 16eg ganrif16g using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:SevillaBarrioDeSantaCruz03.jpg|200px|bawd|Sevilla - rhan o'r hen ddinas]]
'''Sevilla''' (neu '''Seville''') yw prif ddinas artistaidd, diwyllianol ac ariannol de [[Sbaen]], ar lannau [[Afon Guadalquivir]] (37°22′38″Gog., 5°59′13″Gor.). Mae'n brifddinas [[Andalusia]] a thalaith [[Sevilla (talaith)|Sevilla]]. Gelwir dinesyddion y ddinas yn ''Sevillanos'' (benywaidd: ''Sevillanas''). Mae gan yr ardal ddinesig boblogaeth o 704,154 (amcanfyfrif 2005), neu 1,043,000 yn cynnwys ei bwrdeisdrefibwrdeistrefi mewnol (amcangyfrif 2000), neu 1,317,098 am yr ardal fetropolitaidd gyfan (amcangyfrif 2005), sy'n ei gwneud yr ardal fetropolitaidd bedwaredd yn Sbaen. Mae ganddi borthladd eithaf pwysig ar y Guadalquivir sy'n agored i longau cefnfor.
 
Bu'n ddinas bwysig yn nhalaith [[Rhufeiniaid|Rufeinig]] [[Hispania Baetica]] a daeth yn ganolfan ddiwylliannol flodeuog yng nghyfnod teyrnas Mwraidd [[Al-Andalus]] ([[711]] - [[1248]]). Un o'i llenorion enwocaf yn y cyfnod hwnnw oedd y bardd [[Ibn Sahl o Sevilla|Ibn Sahl]]. Erbyn yr [[16g]] roedd Sevilla yn un o borthladdoedd pwysicaf Sbaen gyda [[monopoli]] ar y fasnach rhwng y wlad honno a'r [[Indies Gorllewinol]]. Ganwyd y peintwyr [[Velázquez]] a [[Murillo]] yno.