Bendigeidfran fab Llŷr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: it:Bran (mitologia)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
:''Gweler hefyd [[Brân (gwahaniaethu)]].''
[[Image:Harlech Statue The Two Kings.jpg|bawd|200px|"Y Ddau Frenin": BendigeidfranBendigeidfrân yn cario corff ei nai, Gwern. Cerflun ger Castell Harlech.]]
 
Mae '''BendigeidfranBendigeidfrân fab Llŷr''' (hefyd '''Brân Fendigaidd''') yn gymeriad yn chwedl ''[[Branwen ferch Llŷr|Brânwen ferch Llŷr]]'', yr ail o [[Pedair Cainc y Mabinogi|Bedair Cainc y Mabinogi]].
 
Mae'r chwedl yn agor gyda BendigeidfranBendigeidfrân, a ddisgrifir fel brenin [[Ynys Prydain]], yn sefyll ar graig yn [[Harlech]] yn edrych tua'r môr. Gydag ef mae ei frawd [[Manawydan]] a dau hanner brawd, [[Nisien]] ac [[Efnysien]], sy'n feibion i'w fam, [[Penarddun]] ferch [[Beli fab Mynogan]], o briodas arall. Gwelir llongau yn dynesu, a gwelir mai [[Matholwch]] brenin [[Iwerddon]], sydd wedi dod i ofyn am chwaer BendigeidfranBendigeidfrân, [[Branwen|Brânwen]], yn wraig iddo. Cytunir i'r briodas, ond yn ystod y wledd i'w dathlu mae Efnysien, hanner brawd BranwenBrânwen, yn cyrraedd y llys. Mae'n ddig na ofynwyd am ei ganiatâd ef cyn trefnu'r briodas, ac mae'n anffurfio meirch Matholwch fel dial.
 
Yn Iwerddon mae BranwenBrânwen yn byw'n gytun gyda Matholwch am gyfnod, a genir mab, [[Gwern (mytholeg)|Gwern]], iddynt, ond yna mae Matholwch yn cofio'r hyn a wnaeth Efnysien i'w geffylau ac yn dial am ei sarhad ar FranwenFrânwen. Caiff ei gyrru i weithio yn y gegin am dair blynedd, ond mae'n dofi [[drudwy]] ac yn ei yrru draw i Brydain gyda neges i FendigeidfranBendigeidfrân yn dweud sut y mae'n cael ei thrin. Mae BendigeidfranBendigeidfrân a'i fyddin yn croesi i Iwerddon, gan adael ei fab, [[Caradog fab Brân]], i ofalu am ei deyrnas. Mae'r fyddin yn croesi mewn llongau ond rhaid i BendigeidfranBendigeidfrân gerdded trwy'r môr, gan ei fod yn gawr na all yr un llong ei gario. Wedi cyrraedd Iwerddon maent yn dod at afon na ellir ei chroesi, ac mae BendigeidfranBendigeidfrân yn gorwedd ar draws yr afon fel pont, a'r fyddin yn croesi drosto.
 
Cynhelir cyfarfod i drafod amodau heddwch, ond mae Efnysien yn rhoi diwedd ar hyn trwy afael yn Gwern, mab BranwenBrânwen a Matholwch, a'i daflu i'r tân. Rhyfel yw'r canlyniad, a lleddir llawer o filwyr ar y ddwy ochr. Yn y diwedd mae holl wŷr Iwerddon wedi ei lladd, er gwaethaf y ffaith fod ganddynt y [[Pair Dadeni]] i adfywio'r meirw, a dorrir gan Efnysien, a dim ond saith o fyddin BendigeidfranBendigeidfrân sy'n fyw i ddychwelyd i Brydain. Mae BendigeidfranBendigeidfrân ei hun wedi ei glwyfo'n angheuol yn ei droed gan waywffon wenwynig. Cyn marw mae'n gorchymyn i'w wŷr dorri ei ben a mynd a'r pen yn ôl gyda hwy a'i osod ar y [[Gwynfryn]] yn [[Llundain]].
 
==Llyfryddiaeth==