Streic y Glowyr (1984–85): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Un o'r streiciau pwysicaf yn hanes diwydiant glo Prydain oedd '''Streic y Glowyr (1984-5)''', streic a alwyd gan [[Undeb Cenedlaethol y Glowyr]] (yr NUM) dan [[Arthur Scargill]], i wrthwynebu cynlluniau'r llywodraeth [[Ceidwadwyr|Geidwadol]] dan [[Margaret Thatcher]] i gau nifer sylweddol o byllau glo. Roedd y [[Bwrdd Glo]] dan [[Ian McGregor]] yn bwriadu cau 20 o byllau a diswyddo 20,000 o lowyr.
 
Roedd y gefnogaeth i'r streic yn amrywio o ardal i ardal. Roedd yn uchel iawn ym [[Maes glo De Cymru]], lle roedd dros 99% o'r gweithlu yn cefnogi'r streic ar y cychwyn, onsond yn llawer is ym [[Maes glo Gogledd Ddwyrain Cymru]], lle roedd tua 35% o'r gweithlu ar streic.
 
Dechreuodd y streic ym mis Mawrth [[1984]], a daeth i ben ar [[3 Mawrth]] [[1985]], pan orfodwyd y glowyr i ddychwelyd i'r gwaith.