Brwydr Plassey: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Dim newid ym maint ,  14 o flynyddoedd yn ôl
B
teipo
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B teipo
Llinell 2:
Ymladdwyd '''Brwydr Plassey''' ar [[23 Mehefin]], [[1757]], ger tref Plassey ym [[Bengal|Mengal]], gogledd-ddwyrain [[India]]. Curodd y lluoedd [[Prydain|Prydeinig]] dan y cadfridog [[Robert Clive]] ("Cllive o India") fyddin [[Surajah Dowlah]], [[Nawab]] [[Bengal]].
 
Roedd y nawab ac eraill wedi codi mewn gwrthryfel yn erbyn y Prydeinwyr a [[Cwmni Dwyrain India|Chwmni Dwyrain India]] gan gipio [[Calcutta]]. Ail-gipiodd Clive y ddinas honno, lle carcharwyd tua chant o bobl yn y "Twll Du" enwog, o ddwylo'r gwrthryfelwyr cyn mynd yn ei flaen i gwrdd â'r gwrthryfelwyr ger Plassey. Un o'r rhesymau am ei fuddugoliaeth oedd brad rhai o gadfridogion y nawab dan arweinyddiaeth [[Mir Jafar]] a aethant drosodd i'r ochtochr fuddugol yn ystod y frwydr.
 
Canlyniad pwysicaf y frwydr oedd cadarnhau ac ymestyn rheolaeth Prydain ar ddwyrain India, yn wyneb cystadleuaeth gan [[Ffrainc]] (roedd Prydain a Ffrainc yn ymladd y [[Rhyfel Saith Mlynedd]] yn [[Ewrop]] yr adeg honno yn ogystal). Gosodwyd un o gonglfeini'r [[Ymerodraeth Brydeinig]], sef reolaeth ar is-gyfandir India i gyd erbyn diwedd y [[18fed ganrif]].
7,302

golygiad