Bryniau Clwyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd
Llinell 1:
[[Delwedd:MoelFamauSummit(JohnSTurner)Feb2004.jpg|250px|bawd|Copa Moel Famau, yr uchaf ym Mryniau Clwyd]]
[[Delwedd:Moelydd clwyd bach.jpg|250px|bawd|dde|Rhai o'r moelydd yn gefndir gwych i [[Ysgol Brynhyfryd]], Rhuthun]]
'''Bryniau Clwyd''' yw'r gadwyn o fryniau canolig eu huchder yng ngogledd-ddwyrain [[Cymru]] sy'n ymestyn o gyffiniau [[Llandegla-yn-Iâl]] yn y de i gyffiniau [[Prestatyn]] yn y gogledd, gan gyrraedd ei phwynt uchaf gyda [[Moel Famau]]. Er nad ydynt yn arbennig o uchel, ceir golygfeydd braf o'u copaon hyd at fynyddoedd [[Eryri]] i'r gorllewin a thros [[Sir y Fflint]] i wastadeddau [[Swydd Gaer]] a chyffiniau [[Lerpwl]] i'r dwyrain. Gorwedd y rhan fwyaf o'r gadwyn yn [[Sir Ddinbych]] ond mae'r ffin â Sir y Fflint yn rhedeg ar hyd y copaon yn ei chanol.