Llain Gaza: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: bn, hi, km yn newid: hr, ms, uk
BDim crynodeb golygu
Llinell 9:
Daw ei enw o'r ddinas fwyaf yno, sef [[Gaza]]. Rheolir y llain gan lywodraeth [[Hamas]] ar hyn o bryd. Ffoaduriaid Palesteinaidd yw'r mwyafrif llethol o ddinesyddion Gaza. Mae rhai yn ei disgrifio fel "carchar rhyfel mwyaf y byd" am fod Israel yn cadw'r bobl dan warchae economaidd a milwrol gyda "ffens ddiogelwch" anferth yn gwahanu'r diriogaeth ac Israel, llynges Israel yn rhwystro mynediad o'r môr, a dim cysylltiad trwy'r awyr (dinistriwyd [[Maes Awyr Yasser Arafat]] ganddynt). I'r de, ar y ffina â'r Aifft, dim ond un croesfa sydd ar gael, ger [[Rafah]], ac mae mynd i mewn ac allan yn anodd yno hefyd.
 
Yn Rhagfyr 2008, cafwyd [[YmgyrchYmosodiad fomioIsrael Llainar GazaLain RhagfyrGaza 20082008–2009|ymosodiad]] gan Lu Awyr Israel a lladdwyd dros 300 o Balesteiniaid o fewn deuddydd. Ar y 3ydd o Ionawr 2009 symudodd tanciau a milwyr Israel i fewn i'r Llain a gwelwyd llawer o fomio o awyrennau a hofrenyddion Israel yn rhagflaenu'r milwyr. Cafwyd protestiadau yn erbyn Israel led-led Cymru gan gynnwys Caerdydd, Abertawe a Chaernarfon. Ar hyn o bryd (8 Ionawr 2009) mae'r ymladd yn parhau.
 
==Dinasoedd==