Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Swediaid"

Ychwanegwyd 732 beit ,  3 blynedd yn ôl
ehangu fymryn
(cychwyn)
Tagiau: 2017 source edit
 
(ehangu fymryn)
Tagiau: 2017 source edit
[[Cenedl]] a [[grŵp ethnig]] sy'n frodorol i wlad [[Sweden]] ym mhenrhyn [[Llychlyn]] yng ngogledd[[Gogledd Ewrop|Ngogledd Ewrop]] yw'r '''Swediaid'''. Hefyd mae cymunedau Swedaidd hirsefydlog yn [[y Ffindir]], gan gynnwys [[Ynysoedd Aland]] yn y [[Môr Baltig]]. Maent yn siarad yr iaith [[Swedeg]].
 
Maent yn perthyn yn agos i'r [[Norwyaid]] a'r [[Daniaid]], ac mae peth cyd-eglurder rhwng Swedeg, [[Norwyeg]], a [[Daneg]]. Mae'r mwyafrif o Swediaid yn [[Lwtheriaeth|Lwtheriaid]], a lleiafrif mawr yn ddigrefydd.
 
Llwythau [[Pobloedd Germanaidd|Germanaidd]] oedd trigolion Sweden a [[Norwy]]: y [[Svear]], y [[Dani]], y [[Gothiaid]], a'r [[Llychlynwyr]]. Bu gwrthdaro rhwng y bobloedd hyn am oesoedd, ac hanes hir o ymfudiad gan y Llychlynwyr. Yn y 12g, brwydrodd Erik IX Jedvardsson i uno ac ehangu tiriogaeth y Swediaid. Ar ddiwedd y 14g, unwyd Sweden, [[Denmarc]] a [[Norwy]] dan [[Undeb Kalmar]]. Llwyddodd Sweden i ennill annibyniaeth dan [[Gustav I Vasa]] yn yr 16g. Unwyd Sweden a Norwy o 1814 i 1905.
 
== Cyfeiriadau ==
69,573

golygiad