Britannia Superior: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Talaith [[Ymerodraeth Rufeinig|Rufeinig]] ar [[Ynys Prydain]] oedd '''Britannia Superior'''. Roedd yn un o'r ddwy dalaith a grewyd tua [[197]] OC, pan rannodd yr ymerawdwr [[Septimus Severus]] dalaith [[Britannia]] yn ddwy; y dalaith arall oedd [[Britannia Inferior]].
 
Roedd prifddinas Britannia Superior yn Londinium ([[Llundain]]), ac roedd yn cynnwys rhan ddeheuol Lloegr a'r cyfan o Gymru. Yn [[Efrog]] yr oedd prifddinas Britannia Inferior, oedd yn cynnwys rhan ogleddol Lloegr, ond nid oes sicrwydd ymhle yr oedd y ffîn rhwng y ddwy dalaith.
 
Tua [[293]], dan yr ymerawdwr [[Diocletian]], rhannwyd talaith Britannia Superior yn ddwy: [[Britannia Prima]] a [[Maxima Caesariensis]]. Roedd Britannia Prima yn cynnwys Cymru a gorllewin Lloegr, gyda phrifddinas yn [[Cirencester]], tra'r oedd Maxima Caesariensis yn cynnwys de-ddwyrain LLoger, gyda'r brifddinas yn Londinium.