Mary Whateley: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
llyfryddiaeth
Llinell 1:
Bardd a anwyd yn ystod yr 18g oedd Mary Whateley (Mary Darwell wedi iddi briodi) o [[Swydd Gaerwrangon]]. Bu hi’n byw mewn sawl lle yn [[Lloegr]] ar hyd ei hoes, ond rai blynyddoedd wedi marwolaeth ei gŵr, symudodd i’r [[Drenewydd]] am gyfnod. Emynydd a bardd oedd ei gŵr, John Darwall, ac roedd ganddo yntau ei wasg ac roedd wedi cyhoeddi sawl cyfrol o’i gerddi ei hun.<ref>‘Oxford Dictionary of National Biography’ ''<nowiki>http://www.oxforddnb.com/</nowiki>'' (cyrchwyd Ebrill 2015); Mary Whateley, ''Written on walking in the woods of Gregynog in Montgomeryshire'' (Gregynog, 1924).</ref><ref>Glyn Tegai Hughes, Prys Morgan, J. Gareth Thomas, ''Gregynog'' (Caerdydd, 1977); Glyn Tegai Hughes, ''Gregynog'' (Y Drenewydd, 1988).</ref>
 
== Gwaith ==
Cyhoeddodd Mary ddwy gyfrol o gerddi, sef ''Original Poems on Several Occasions'' yn 1764, ac yna ''Poems on Several Occasions'' yn 1794. Cyhoeddodd yr ail yn ystod ei chyfnod yng Nghymru, ac ynddi mae cerdd a ysgrifennwyd am ei ymweliad â [[Gregynog]] wedi’i dyddio Gorffennaf 1, 1794. Mae’r gerdd hon wedi ei chyhoeddi ddwywaith eto gan [[Gwasg Gregynog|Wasg Gregynog]].
 
== Llyfryddiaeth ==
<references />