Afon Nedd Fechan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Afon yn ne Powys sy'n llifo i mewn i afon Nedd yw'r '''Nedd Fechan'''. Ceir tarddle'r afon yn y Fforest Fawr ym [[Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog|Mharc Cenedlaethol…
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 12:37, 23 Mawrth 2009

Afon yn ne Powys sy'n llifo i mewn i afon Nedd yw'r Nedd Fechan.

Ceir tarddle'r afon yn y Fforest Fawr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ar lethrau dwyreiniol Fan Gyhirych. Mae'n llifo tua'r de am 12km / 7 milltir, gydag afon Pyrddin yn ymuno a hi ger y Pwll Du ar Byrddin, cyn ymuno ag afon Mellte ger Pontneddfechan, i ffurfio afon Nedd.

Ceir nifer o raeadrau ar yr afon, yn cynnwys Sgŵd Ddwli a Sgŵd Pedol. Mae dyffryn yr afon yn rhan o Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardal Gadwraeth Arbennig.