Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Geni'r Iesu"

Ychwanegwyd 24 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
Tagiau: 2017 source edit
 
==Yr Hanes yn yr Efengylau==
Mae Mathew a Luc yn cyfeirio at eni Iesu ym [[Bethlehem|Methlehem Jwdea]], a hynny i [[genedigaeth wyryfol|wyryf]], sef Mair, [[Mair Forwyn]] fel y'i gelwir yn gyffredin. Daw llawer o stori'r Nadolig o Efengyl Luc, sy'n adrodd hanes [[Joseff o Nasareth|Joseff]] a Mair yn teithio o [[Nasareth (Galilea)|Nasareth]] i Fethlehem i gofrestru mewn cyfrifiad o [[Ymerodraeth Rhufain]] a alwyd gan [[Cesar Awgwstws|Gesar Awgwstws]]. Genir Iesu, ei rwymo mewn cadachau, a'i osod mewn preseb, gan nad oedd lle iddynt yn y llety. Gerllaw mae bugeiliaid yn gwarchod eu praidd liw nos, pan ddaw angel i gyhoeddi "newydd da am lawenydd mawr" gan gyhoeddi bod baban wedi ei eni ac mai ef yw'r Gwaredwr, y Meseia, yr Arglwydd. Ar ôl clywed yr angel, mae'r bugeiliaid yn mynd i ymweld â'r baban a'i rieni, gan ailadrodd yr hyn a glywsant.
 
Mae Efengyl Mathew yn cyfeirio at [[Doethion o'r Dwyrain|ddoethion o'r dwyrain]], sy'n gweld seren brenin yr Iddewon yn yr awyr, ac yn dod i [[Jerwsalem]] i chwilio am y baban er mwyn ei addoli. Maent yn dilyn y seren ac ar ôl cyrraedd Iesu ym Methlehem, tref [[Dafydd (brenin)|Dafydd]], maent yn syrthio o'i flaen i'w addoli ac yn rhoi tri anrheg iddo, [[aur]] a [[thus]] a [[myrr]].
69,869

golygiad