Trefesgob, Casnewydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Owain (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
tarddiad ayb
Llinell 1:
Pentref a [[Cymuned (llywodraeth leol)|chymuned]] ym dinas [[Casnewydd (sir)|Casnewydd]] yw '''Trefesgob''', yn(Cyfeirnod llawnOS: ST3887), neu '''Llangadwaldr Trefesgob''' i roi'r hen ffurf Gymraeg. ([[Saesneg]]: ''Bishton''). Saif i'r dwyrain o ddinas [[Casnewydd]], yn ward etholiadol [[Llan-wern]]. Roedd poblogaeth y gymuned yn [[2001]] yn 2,161.
 
Saif rhan ddwyreiniol o hen [[Gwaith Dur Llan-wern|Waithwaith Durdur Llan-wern]] yn y gymuned hon. Heblaw pentref Trefesgob ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentref mwy [[Underwood]], a adeiladwyd yn y 1960au ar gyfer gweithwyr y gwaith dur.
 
Roedd yr ardal yn wreiddiol yn faenor eglwwysigeglwysig, a roddwyd i [[Esgob Llandaf]] yn y [[6ed ganrif]] yn ôl [[Llyfr Llandaf]] hyd at 1650. Mae olion plas yr esgob i'w weld fel mwnt, ac mae eglwys Sant Cadwaladr yn dyddio o'r [[13eg ganrif]]. Saif bryngaer o [[Oes yr Haearn]] ar ben Allt Chwilgrug.
 
Ymddangosodd 'Llan Gadwaladr' am y tro cyntaf mewn hen ddogfen yn dyddio'n ôl i 1136 a'r fersiwn Saesneg wedyn yn 1290: 'Bishton Manor of Llankadwder'. Trodd hwn yn 'Bishopiston' yn 1504 a daeth 'Tre Esgob' yn 1566.
 
==Llyfryddiaeth:==
''Dictionary of the Welsh Place-Names of Wales'' gan Hywel Wyn Ownen a Richard Morgan, Gwasg Gomer, 2008
 
{{Trefi Casnewydd}}