Bwlio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: bawd|dde|Caiff bwlio effaith negyddol ar ddatblygiad a hunan-ddelwedd plentyn Mae '''bwlio''' yn cyfeirio at weithred bwriadol sydd â'r nod o ana…
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 16:39, 28 Mawrth 2009

Mae bwlio yn cyfeirio at weithred bwriadol sydd â'r nod o anafu pobl eraill, boed trwy eiriau, ymosodiad corfforol neu drwy ddulliau mwy cynnil fel manipiwlieddio person. Gellir diffinio bwlio mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Er nad oes gan y Deyrnas Unedigg ddiffiniad cyfreithiol o fwlio ar hyn o bryd,[1] mae gan rhai taleithiau Americanaidd gyfreithiau yn ei erbyn. Gall aml, mae bwlio'n digwydd er mwyn gorfodi rhywun i wneud rhywbeth drwy fygythiad neu ofn.[2]

Delwedd:180px-Bullying Irfe.jpg
Caiff bwlio effaith negyddol ar ddatblygiad a hunan-ddelwedd plentyn

Mewn ysgolion ac yn y gweithle, cyfeirir ar fwlio hefyd fel camdriniaeth cyfoedion.

Mewn iaith lafar, yn aml mae bwlio yn disgrifio modd o erlid a gaiff ei orfodi ar y dioddefwr gan berson sydd â mwy o bŵer corfforol a/neu bŵer cymdeithasol. Weithiau cyfeirir at y person sy'n cael ei fwlio fel y targed. Gall yr erlid fod yn eiriol, corfforol a / neu'n emosiynol. Weithiau bydd bwli yn pigo ar bobl mwy neu lai na hwy o ran maint. Mae nifer o resymau pam y mae'r bwli yn anafu pobl yn eiriol ac yn gorfforol.[3][4] Un o'r rhesymau hyn yw am fod y bwli ei hun wedi dioddef bwlio (e.e. plentyn a gaiff ei gamdrin yn y cartref, neu oedolion sy'n bwlio sydd wedi cael eu trin yn wael gan eu cydweithwyr.

Diffinia'r ymchwilydd Norwyeg Dan Olweus fwlio fel pan fo un person yn "exposed, repeatedly and over time, to negative actions on the part of one or more other persons." Diffinia gweithred negyddol fel "when a person intentionally inflicts injury or discomfort upon another person, through physical contact, through words or in other ways."[5]

Gall bwlio ddigwydd mewn rhywun leoliad lle mae bodau dynol yng nghwmni ei gilydd. Mae hyn yn cynnwys ysgolion, yr eglwys, y gweithle, yn y cartref ac yn y gymdogaeth. Mae hefyd yn ffactor gwthio cyffredin dros fudo. Gall fwlio fodoli rhwng grŵpiau cymdeithasol, dosbarthiadau cymdeithasol ac hyd yn oed rhwng gwledydd.

Cyfeiriadau

  1. Harassment, Discrimination and Bullying Prifysgol Manceinion. Adalwyd 28-03-2009
  2. State Laws Related to Bullying AmongChildren and Youth Adalwyd 28-03-2009
  3. The anatomy of human destructiveness. Eric Fromm. Adalwyd 28-03-2009
  4. Man against himself Karl A Menninger. Adalwyd 29-03-2009
  5. Olweus.D A Research Definition of Bullying Adalwyd 28-03-2009