Bwlio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 10:
Gall bwlio ddigwydd mewn rhywun leoliad lle mae bodau dynol yng nghwmni ei gilydd. Mae hyn yn cynnwys ysgolion, yr eglwys, y gweithle, yn y cartref ac yn y gymdogaeth. Mae hefyd yn ffactor gwthio cyffredin dros fudo. Gall fwlio fodoli rhwng grŵpiau cymdeithasol, dosbarthiadau cymdeithasol ac hyd yn oed rhwng gwledydd.
 
===Effeithiau===
Gall effeithiau bwlio fod yn ddifrifol neu hyd yn oed yn farwol. Dywedodd Mona O'Moore Ph. D o'r Ganolfan Gwrth-Fwlio, [[Coleg y Drindod, Dulyn]] ''"There is a growing body of research which indicates that individuals, whether child or adult who are persistently subjected to abusive behavior are at risk of stress related illness which can sometimes lead to suicide"''.<ref>[http://www.abc.tcd.ie/ Anti-Bullying Center] Adalwyd 28-03-2009</ref>
 
Llinell 21:
==Mathau o Fwlio==
 
===Bwlio mewn ysgolion===
Gall bwlio ddigwydd ymhob ardal o ysgol. Er ei fod yn gallu digwydd mewn unrhyw ardal o'r ysgol, mae cymryd lle yn aml mewn chwaraeon, amser egwyl, mewn neuaddau, tai bach, ar fysiau i'r ysgol ac ar y ffordd adref, mewn dosbarthiadau lle ceir gwaith grŵp a/neu mewn gweithgareddau ar ôl ysgol. Weithiau, bydd bwlio mewn ysgolion yn cynnwys criw o ddisgyblion yn cymryd mantais o, neu'n ynysu un disgybl. Byddant yn ennill cefnogaeth disgyblion eraill am eu bod hwythau eisiau sicrhau nad nhw fydd y dioddefwr nesaf. Bydd y bwlïod hyn yn pryfocio a phoeni eu targed cyn bwlio'r targed yn gorfforol. Yn aml, bydd targed y bwlïod yn ddisgyblion a ystyrir yn rhyfedd neu'n wahanol gan eu cyfoedion, a gwna hyn y sefyllfa yn anoddach iddynt ymdopi ag ef. Mae rhai bwlïod yn bwlio am eu bod yn unig, ac mae ganddynt angen mawr i berthyn, ond nid oes ganddynt y sgiliau cymdeithasol i gadw ffrindiau'n effeithiol. Fodd bynnag, mae yna beth ymchwil a awgryma nad yw canran sylweddol i blant ysgol "normal" yn ystyried trais mewn ysgol mewn ffordd mor negyddol a nifer o oedolion, ac hyd yn oed yn cael rhyw fath o bleser ohono, ac felly nid ydynt yn gweld rheswm dros ei atal os yw'n dod a phleser iddynt ar ryw lefel.<ref>Kerbs, J.J. & Jolley, J.M. The Joy of Violence: What about Violence is Fun in Middle-School? American Journal of Criminal Justice. Vol. 32, Rhif. 1-2/ Hydref. 2007.</ref>
 
===Bwlio ar y Wê===
 
Yn ôl yr addysgwr [[Canada|Canadaidd]] Bill Belsey, mae hyn yn cynnwys:
Llinell 31:
</blockquote>
 
===Bwlio Gwleidyddol===
Mae bwlio gwleidyddol (neu ''jingoistiaeth'') yn digwydd pan mae un gwlad yn gwthio'i hawdurdod ar wlad arall. Gan amlaf, caiff hyn ei wneud drwy rym a bygythiadau milwrol. Gyda bygythiadau, mae'n gyffredin i fygwth atal cymorthdaliadau a grantiau i'w wlad fechan neu ddweud na chaiff y wlad fechan ymuno â sefydliad masnachol.