Mynydd Cefnamwlch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Bryn yn [[Llŷn]], [[Gwynedd]], yw '''Mynydd Cefnamwlch'''. Saif rhwng pentrefi [[Sarn Mellteyrn]], i'r de, a [[Tudweiliog]], i'r gogledd. Mae bwlch yn gorwedd rhyngddo a [[Carn Fadryn]], i'r dwyrain. Llifa [[Afon Soch]], sy'n tarddu wrth waelod ei lethrau dwyreiniol, heibio i'r bryn ar ei ffordd i'r môr yn [[Abersoch]].
Bryn yn [[Llŷn]], [[Gwynedd]], yw '''Mynydd Cefnamwlch'''.
 
Bryn 182m o uchder ydyw o ddifrif, ond 'Mynydd Cefnamwlch' yw ei enw diolch i barch bobl lleol amdano. Saif tua dwy filltir o lannau ogleddol [[Llŷn]], gyda'r brif ffordd rhwng [[Tudweiliog]] a [[Llangwnnadl]] (B4417, ffordd eilaidd) ar ei hochr ogleddol. Tua hanner milltir ar hyd y ffordd o droed Mynydd Cefnamwlch tuag at Llangwnnadl ceir troad lawr i'r dde tuag at blasdy Plas yn Mhenllech a'i heglwys hynafol. Yn fforchio o'r B4417 ym Meudu Bigin a throi'n ddwyreiniol mae ffordd gul tuag at [[Sarn Mellteyrn]], [[Bryncroes]] a [[Botwnnog]]. Wrth ddod allan o'r coed sydd ar naill ochr i'r ffordd yma fe welwch Goetan Arthur ar y dde mewn cae cyfagos, enghraifft dda o gromlech o'r Oes Neolithig (rhwng 2000 i 4000CC) ac mae'n bosib cerdded ato ac edrych draw ar yr olygfa tuag at [[Garn Fadryn]], [[Eryri]] a [[Môn]]. Cyn cyrraedd pentref Sarn Mellteyrn mae olion eglwys San Pedr ar y chwith, fe'i dymchwelwyd yn y 1990au.
 
Gorwedd ystad Cefnamlwch i'r gogledd o'r bryn. Ceir [[siambr gladdu]] o [[Oes yr Efydd]] ar ei lethrau gogleddol, ger y B4417.