Curiad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 26:
Dyfeisiwyd y [[Gwe fyd-eang|we fydeang]] gan [[Tim Berners-Lee]] a Robert Cailliau pan roeddent yn gweithio yn [[CERN]] yng [[Geneva|Ngenefa]], [[Y Swistir]] a [[Ffrainc]] yn 1989.
 
Roedd dau grŵp ebysttrafod wedi'u ffurfio ychydig cyn 1995: WELSH-L (Tachwedd 1992) ac yna grŵp Usenet [[soc.culture.welsh]] (21 Mawrth 1995). Lansiwyd [[Cwrs Cymraeg Mark Nodine]] ym Mehefin 1994, ond ychydig iawn o Gymraeg oedd arni. Cafwyd hefyd nifer o ddalenau unigol. Cyn datblygiad gwasanaethau masnachol i letya gwefannau, roedd y rhan fwyaf o wefannau yn cael eu cynnal ar gyfrifon myfyrwyr a staff adrannau cyfrifiadureg y prifysgolion.
 
Fe wnaeth nifer o 'dudalennau cartref' ymddangos - rhai yn ddim mwy na manylion cysylltu. Fe fyddai eraill yn tyfu i wefannau llawn yn hwyrach ymlaen. Fel arfer, roedd America ar y blaen ac roedd rhai ISPs masnachol yn cynnwys gofod ar y we fel rhan o'i gwasanaeth.