The Sound of Music (ffilm): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

ffilm ddrama am berson nodedig gan Robert Wise a gyhoeddwyd yn 1965
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: {{Gwybodlen Ffilm | enw = The Sound of Music | delwedd = 215px-Sound_of_music.jpg | pennawd = Poster y Ffilm | serennu= Julie Andrews<br>Christopher Plummer | cyfarwyddwr = […
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:02, 31 Mawrth 2009

Ffilm gerddorol yw The Sound of Music a ysgrifennwyd gan Rodgers a Hammerstein ym 1965. Mae'n serennu Julie Andrews fel y prif gymeriad. Seiliwyd y ffilm ar sioe gerdd Broadway, ac ysgrifennwyd y llyfr cerddorol gan Howard Lindsay a Russel Crouse. Ernest Lehman ysgrifennodd y sgript.

The Sound of Music

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Robert Wise
Cynhyrchydd Robert Wise
Ysgrifennwr Hunangofiant:
Maria von Trapp
Llyfr y Sioe gerdd:
Howard Lindsay
Russel Crouse
Sgript:
Ernest Lehman
Serennu Julie Andrews
Christopher Plummer
Dylunio
Cwmni cynhyrchu 20th Century Fox
Dyddiad rhyddhau 2 Mawrth, 1965
Amser rhedeg 174 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Yn wreiddiol, seiliwyd y sioe gerdd ar y llyfr The Story of the Trapp Family Singers gan Maria von Trapp. Mae'n cynnwys nifer o ganeuon poblogaidd, gan gynnwys "Edelweiss," "My Favorite Things," "Climb Ev'ry Mountain," "Do-Re-Mi," "Sixteen Going on Seventeen," a "The Lonely Goatherd," yn ogystal â'r gân sy'n dwyn teitl y ffilm.

Fe'i ffilmiwyd yn Salzburg, Awstria a Bafaria yn Ne'r Almaen yn ogystal ag yn stiwdios 20th Century Fox yng Ngahilffornia