Cellbilen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
linc fewnol
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
linc fewnol
Llinell 35:
== Ymhle y ffurfir y gellbilen ? ==
 
[[Delwedd:Endobilen1.png|thumb|right|250px|Llif Endobilen]]Mewn celloedd [[ewcaryot]]ig, nid yw’r gellbilen yn annibynnol o weddill pilenni’r gell, ond yn rhan o’r gyfundrefn endobilen, un o brif nodweddion celloedd ewcaryotig<ref>Kepes F, Rambourg A, Satiat-Jeunemaitre A (2005) Morphodynamics of the secretory pathway. ''International Review of Cytology - A survey of cell biology'', 242, 55-120</ref><ref>Campbell NA et al. (2008) ''Biology''. (8<sup>ed</sup> ol.) Pearson/Benjamin Cummins (tud. 130) ''Cyfeiriad elfennol''</ref>. Mae holl organynnau’r gell, ac eithrio’r organynnau paleo-symbiotig (y mitocondrion[[mitocondria]] a’r [[cloroplast]]iau), yn rhan o’r gyfundrefn hon. Mae’r holl bilenni yma yn hanu o’r [[reticwlwm endoplasmig]] (ER). Ar ribosomau’r ER garw adeiledir holl broteinau'r endobilenni, ynghyd â’r holl broteinau a allforir, neu a gynhwysir yn lwmen un o’r organynnau endobilennog (megis y Golgi, y lysosom, y cnewyllyn a’r ER ei hun). Yn yr ER hefyd y ffurfir yr haenen ddeulipid. Daw ffosffolipidau’r bilen o ragflaenyddion yn y cytoplasm, felly i ddechrau, dim ond yr ochr cytoplasmig i’r bilen a ffurfia . Prosesau dewisol ym mhilen yr ER sy’n symud rhai lipidau o un ochr y bilen i’r llall (ochr y lwmen). Dyma darddiad y gwahaniaeth rhwng y ddwy haen a welir yn holl endobilenni’r gell.
Hylif yw pob pilen fiolegol fyw, a thrwy broses o lifo (llifo endobilennog) mae rhannau o’r ER yn ymryddhau ac yn symud i wyneb cis yr organigyn Golgi. Wrth lifo o’r wyneb cis i’r wyneb trans mae nifer helaeth o newidiadau yn digwydd i’r proteinau a’r lipidau. Un o’r newidiadau pwysicaf yw ychwanegu a newid grwpiau carbohydrad. Yn y Golgi ffurfir y glycoproteinau a’r glycolipidau sy’n holl bwysig i weithredoedd y gellbilen (megis antigenau ABO y grwpiau gwaed). Yma, hefyd, y ffurfir holl bolysacaridau muriau celloedd planhigion (ac eithrio cellwlos) a’r mwcws sy’n nodweddu annwyd trwm.
Wrth adael wyneb trans y Golgi, bydd targed gwahanol bilenni wedi’i nodi ynddynt mewn modd nid annhebyg i gôd post. Yn y modd hwn bydd pilen gyfan newydd yn cyrraedd ac yn ymdoddi i’r gellbilen sy’n bodoli eisioes. Bydd y wyneb cytoplasmig o’r ER yn dal i wynebu’r cytoplasm, a’r wyneb allanol wedi’i ffurfio gan y prosesau a drosglwyddodd unedau o un haen o’r haen ddeulipid i’r llall yn yr ER a’r Golgi.