Afon Po: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:LocationPoRiver.PNG|bawd|250px|Lleoliad Afon Po]]
Mae '''Afon Po''' ([[Lladin]]: ''Padus'') yn afon sy'n tarddu ger [[Monviso]] yn yr [[Alpau Cottaidd]] ac yn llifo am 652 km (405 milltir) i'r dwyrain ar hyd gogledd [[yr Eidal]]. Mae'n cyrraedd y [[Môr Adriatig]] gerllaw [[Fenis|Penis]]. Afon Po yw'r afon hwyaf yn yr Eidal, ac mae ei dalgylch yn 71,000 km².
 
Mae'r afon yn llifo trwy nifer o ddinasoedd a threfi pwysig, yn cynnwys [[Torino]], ac mae wedi ei chysylltu a [[Milan]] trwy rwydwaith o sianeli a elwir yn ''[[navigli]]''. Bu gan [[Leonardo da Vinci]] ran yn y gwaith o gynllunio'r rhain. Cyn i'r afon gyrraedd y môr, mae'n ffurfio [[delta]] sylweddol, gyda llawr o sianeli bach a pump mawr: ''Po di Maestra'', ''Po della Pila'', ''Po delle Tolle'', ''Po di Gnocca'' a ''Po di Goro''.