Tywyn, Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Golygiad bychan
B Golygiad bychan
Llinell 164:
Pasiwyd Deddf Addysg yn 1870.<ref name=":2" /> Sefydlodd Byrddau Ysgol gyda'r grym i godi cyllid o drethi leol. Aeth yr ysgol Brutanaidd (rhagflaenydd Ysgol Penybryn) yn rhan o'r drefn newydd ond gwrthododd y "National School" yn Nhywyn ymuno. Diriwiodd yn raddol a pan sefydlwyd Byrddau Addysg Lleol yn 1902 penderfynwyd nid oedd angen ddwy ysgol a caewyd y "National School yn 1913.<ref name=":4" />
 
== Ymwelwyr ==
Bu Tywyn yn cyrchfan ymwelwyr, neu pereionion ers canrifoedd. Cyn dyfodiad y rheilffordd yr oedd yn llawer haws teithio ar y mor. Pan daeth teithio pleser yn ffasiynol gyda boneddigion yn haner cyntaf y 19ed canrif daeth ymwelwyr i aros yn Ngwesty'r Corbett a'r Neptune Hall. Cyn 1850 bu'r dref yn adnabyddus am safon arbennig y pysgota.<ref name=":1" /> Parhaodd ymweld â'r ffynnon yn di-dor tan diwedd y 19ed canrif. Yn 1868 ysgrifennwyd "The well is enclosed and fitted up with dressing places, being 12ft by nine it affords ample room for a plunging bath."<ref name=":14" />
 
==== Y Rheilffordd ====
Adeiladwyd y rheilffordd yn yr 1860au gyda'r cysylltiad o Dywyn i Fachynlleth yn cael ei gwblhau yn 1867.<ref>Drummond, I, 2015, Rails along the Fathew, Holne.</ref> Yn yr un blwyddyn cwblhaodd y "lein fach" i Abergynolwyn a chwareli llechi Nant Gwernol.yn haner olaf y 19ed canrif cafodd y dosbarth gweithiol dinesoedd mawr Lloegr yr hawl i cymeryd gwyliau a tyfodd nifer yr ymwelwyr i Dywyn yn helaeth; ynghyd âr gwestai bach oedd yn darparu ar eu cyfer. Mynnodd rhai fod y rheilfordd wedi difetha awyrgych diarffordd ac arferion cyntefig y trigolion <ref name=":1" /> ond mae'r barn hwn yn anwybyddu dylanwad anghydffuriaeth.
 
====Rhodfa'r Mor====
[[Delwedd:Rhodfa'r Mor a'r Carreg coffa.jpg|bawd|chwith|| Rhodfa'r Mor a'r Carreg Coffa]] Y traeth oedd atyniad mwyaf Tywyn yn oes Fictoria.Yn 1877, ceisiwyd adeiladu [[pier]] yn Nhywyn. Ni oroesodd y gwaith fwy nag ychydig fisoedd, a phrin yw'r olion a adawyd ganddo.<ref>Wilkinson, Jeremy. 1984. Tywyn Pier. ''Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Feirionnydd'', 9.4, tt. 457-71.</ref> Mae'r stryd 'Pier Road' (Ffordd y Traeth) hyd heddiw yn cynnig awgrym o'i leoliad. Gwelir brics sydd wedi troi yn grwyn gan symudiad y tonnau hyd heddiw. Adeiladwyd rhodfa ar lan y mor gan Corbett yn 1889.<ref>Carreg Coffa
</ref> Buasai'r rhodfa o'r fath hwn yn disgwylidig gan ymwelwyr Fictoriaid. Mae'r cyfleuster hyd heddiw gan ei fod yn darparu parcio am ddim yn agos iawn i'r traeth. Dymuna'r Cyngor Sir codi tâl am barcio ond rhoddodd Corbett y rhodfa i drigolion y dref sy'n gwrthwynebu tâl.
 
==== Dau Dyddiadur ====
Mae dau dyddiadur wedi goroesi o'r cyfnod Fictoraidd. Daeth rhai fel teulu Kettle i Dywyn <ref name=":4" /> a cofnodwyd eu atgofion. Mae'n anodd cysoni eu disgrifiadau hwy o Dywyn gyda'u agweddau ymerodraethol gyda profiadau pobl leol fel Edward Edwards a ysgrifennodd dyddiadur rhwng 1873-1886 <ref name=":8" /> a oedd yn darlunio bywyd ffermwyr leol oedd yn byw eu bywydau yn llwyr trwy gyfrwng y Gymraeg.
 
==== [[Rheilffordd Talyllyn]] a [[Parc Cenedlaethol Eryri]] ====[[Delwedd:Eryri o Dywyn.jpg|bawd|Eryri o Dywyn]]
Caeodd Chwarel Llechi Nant y Gwernol yn 1946 ac o 1951 ymlaen rhedodd [[Rheilffordd Talyllyn]] gan grwp o wifoddolwyr. Agorodd [[Parc Cenedlaethol Eryri]] yn 1951. Mae Tywyn tu allan i'r Parc ond wedi amgylchynu gan y Parc.Mae agosrwydd y Parc a pesenoldeb y rheilffordd bach yn atyniadau i ymwelwyr. Wrth i safonau byw codi ar ô yr Ail Rhyfel Byd ehangodd y darpariaeth ar gyfer carafanau ymwelwyr yn dirfawr. Mae rheolau cantatâd cynllunio wedi tynhau ond mae nifer o gwersylloedd ar gyfer carafanau statig yn aros yn Nhywyn.