Mewnfudo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
america |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 2:
[[Mewnfudo]] yw symud i mewn i wlad i fyw ynddi, gan unigolyn neu unigolion o wlad arall. Oherwydd y problemau cymdeithasol sy'n gallu codi pan fo nifer fawr o bobl yn mewnfudo mae'n bwnc llosg mewn sawl gwlad.
Mewn cyd-destun [[DU|Prydeinig]], ac yn arbennig yn achos [[Lloegr]], mae nifer o bobl yn pryderu am y mewnfudo o wledydd [[Asia]]idd a'r [[Caribî]]. Mae hynny wedi bod yn faes ffrwythlon i fudiadau [[asgell-dde]] fel y [[BNP]] a [[UKIP]] sy'n ceisio elwa ar [[hiliaeth]]. Mae ymateb [[llywodraeth Prydain]] i hyn wedi amrywio dros y blynyddoedd.
Yng [[Cymru|Nghymru]] mae'r ymateb yn wahanol. Y pryder yng Nghymru yw bod nifer o fewnduwyr o Loegr yn symud i mewn i'r [[Fro Gymraeg]] gan beryglu dyfodol yr iaith [[Gymraeg]] yn ei chadarnleoedd olaf trwy beidio cymathu â'r gymuned a chodi prisiau tai y tu hwnt i gyrraedd pobl leol. Yn wahanol i Loegr mae'r ymateb cryfaf i'r sefyllfa yn dod o'r [[asgell-chwith]] genedlaetholgar yn hytrach na'r asgell-dde. Un o'r grwpiau amlycaf yn y cyd-destun hwn yw'r mudiad [[Cymuned (mudiad)|Cymuned]].
==Mewnfudo o Gymru i America==
Yn y 18ed a'r 19eg ganrif cafwyd [[Americanwyr Cymreig|mewnfudo o Gymru i America]]. Symudodd llawer o [[Crynwyr|Grynwyr]] Cymreig i [[Pennsylvania|Bennsylvania]].
|