Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 69:
Parhaodd Cymru'n wlad Gristnogol ar ôl goresgyn Lloegr gan y tylwythau paganaidd Tiwtonaidd (y Saeson). Fe aeth [[Dewi Sant]] ar bererindod i [[Rhufain|Rufain]] yn y 6g, ac fe weithiodd fel esgob yng Nghymru ymhell cyn y cyrhaeddodd Awstin i drosi brenin Caint a dechrau esgobaeth Caergaint. Ond ni wnaeth y Cymry fawr o ymdrech i ledu Cristionogaeth yn Lloegr, efallai oherwydd yr elyniaeth rhwng y ddwy bobl. Roedd brenhinoedd Cymru fel [[Rhodri Mawr]] a [[Llywelyn ap Gruffudd]] yn ddigon cryf neu gyfrwys i gadw eu hannibyniaeth.
 
[[Delwedd:LlywelynFawr.jpg|150px|bawd|Llywelyn Fawr]]Ar ddiwedd y [[1060au]], daeth y [[Normaniaid]] i Gymru, gan newid gwleidyddiaeth y wlad. Sefydlwyd arglwyddiaethau Normanaidd [[Y Mers]], rhwng Cymru a Lloegr. Bu bron iawn i Gymru gyfan gael ei goresgyn ganddynt ond llwyddodd [[Gruffudd ap Cynan]] ac [[Owain Gwynedd]] i'w hatal, er iddynt ymsefydlu mewn rhannau o'r de ac ardaloedd ar y ffin. Llwyddodd [[Llywelyn Fawr]] i osod seiliau Cymru unedig a chyhoeddwyd ei ŵyr [[Llywelyn ap Gruffudd]] yn [[Tywysog Cymru|Dywysog Cymru]]. Ond parhaodd brenhinoedd Lloegr i ymosod ar Gymru trwy gydol y cyfnod. Ym [[1282]] lladdwyd [[Llywelyn Ein Llyw Olaf]], sef tywysog olaf annibynnol Cymru, mewn ysgarmes ger [[Cilmeri]] a chipiodd [[Edward I o Loegr]] ei deyrnas. Adeiladodd Edward res o gestyll mawr i gadw'r Cymry dan reolaeth - [[Castell Rhuddlan|Rhuddlan]], [[Castell Conwy|Conwy]], [[Castell Caernarfon|Caernarfon]], [[Castell Biwmares|Biwmares]], a [[Castell Harlech|Harlech]] ydyw'r cestyll enwocaf.
 
Cafwyd cyfres o wrthryfeloedd yn erbyn llywodraeth y Saeson o ddiwedd y [[13g]] hyd ddiwedd y [[15g]]; gan [[Madog ap Llywelyn]] (1294-961294—96) a [[Llywelyn Bren]] (1316) er enghraifft, ac roedd y Cymry'n disgwyl dychweliad [[Owain Lawgoch]] yn y [[1370au]] i ryddhau'r wlad. Cododd [[Owain Glyndŵr]] mewn gwrthryfel yn [[1400]] a chafodd ei gyhoeddi'n Dywysog Cymru, ond marw allan yn raddol wnaeth y gwrthryfel wrth i frenhinoedd Lloegr ailosod eu hawdurdod yn y wlad.
 
Am ran helaeth o weddill y [[15g]] tynnwyd Cymru i mewn i [[Rhyfeloedd y Rhosynnau|Ryfeloedd y Rhosynnau]] a welodd y [[Lancastriaid]] a'r [[Iorciaid]] yn ymgiprys am rym yn Lloegr. Ond er gwaethaf yr ansefydlogrwydd, fel yn y ganrif flaenorol, blodeuodd diwylliant Cymru ac yn arbennig y Traddodiad Barddol gyda [[Beirdd yr Uchelwyr]] yn cael nawdd gan yr uchelwyr Cymreig. Un o'r uchelwyr hyn oedd [[Harri Tudur]], nai [[Siasbar Tudur]] a disgynnydd i [[Ednyfed Fychan]], [[distain]] [[Llywelyn Fawr]]. Yn [[1485]] glaniodd yn [[Sir Benfro]] gyda byddin o [[Ffrancod]]. Tyrrai nifer o Gymry ato a gorchfygodd [[Rhisiart III o Loegr]] ar [[22 Awst]] [[1485]] ar [[Brwydr Bosworth|Faes Bosworth]].
 
Am gyfnod gwellodd sefyllfa'r Cymry. Diddymwyd y deddfau penyd a osodwyd ar y Cymry gan y Saeson ar ddechrau'r ganrif. Dan ei fab [[Harri VIII, brenin Lloegr|Harri VIII]] cyflwynwyd y [[Y Deddfau Uno 1536 a 1543|Deddfau Uno]] a roddodd Cymru yn yr un system gyfreithiol a gweinyddol â Lloegr ond a waharddodd yr iaith [[Gymraeg]] o fywyd cyhoeddus y wlad. Ar yr un pryd newidiodd Cymru mewn cenhedlaeth neu ddwy o fod yn wlad [[Eglwys Gatholig|Gatholig]] i fod yn wlad [[Protestaniaeth|Brotestanaidd]]. Gwelwyd hefyd adfywiad llenyddol - cyfnod y [[Dadeni Dysg]] a'r [[Beibl]] [[Cymraeg]] - ond troes y bonedd fwyfwy Seisnigaidd a thyfai bwlch rhwng arweinwyr cymdeithas a'r werin. Un canlyniad o hynny oedd y mudiadau crefyddol [[Ymneilltuaeth|ymneilltuol]] a ymledai'n gyflym yn ystod y [[Yr Ail Ganrif ar Bymtheg yng Nghymru|17eg ganrif]] a'r [[Y Ddeunawfed Ganrif yng Nghymru|18fed]]. Dechreuodd Cymru droi'n wlad ddiwydiannol yn ogystal, ac erbyn diwedd y 18g a dechrau'r [[Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg yng Nghymru|19eg ganrif]] roedd trefi diwydiannol, chwareli a phyllau glo yn nodwedd amlwg ar fywyd y wlad. Tyfodd [[llythrennedd]] ac ymledai'r [[Y Wasg Gymraeg|wasg Gymraeg]]. Cynyddai'r galw am [[Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru|Ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru]] ac am [[hunanlywodraeth]] ac erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd mudiad [[Cymru Fydd]] ar ei anterth.
 
Cymysg fu ffawd y genedl yn ystod y [[Yr Ugeinfed Ganrif yng Nghymru|20fed ganrif]]. Ond er gwaethaf [[y Rhyfel Byd Cyntaf]], [[Dirwasgiad Mawr]] y [[1930au]], [[yr Ail Ryfel Byd]] a'r dirywiad ieithyddol yn y [[1970au]] a'r [[1980au]], mae Cymru heddiw'n meddu [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Cynulliad Cenedlaethol]] ac ymddengys fod yr iaith [[Gymraeg]] yn wynebu dyfodol mwy gobeithiol nag a ddychmygid cenhedlaeth yn ôl er mai dim ond oddeutu 18% o'r Cymry sy'n siarad Cymraeg.