Ravenna: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:Mausoleum of Theoderic.JPG|bawd|220px|Mawsoleum [[Theodoric]] yn Ravenna yw'r esiampl bwysicaf o bensaerniaeth y [[Gothiaid]]]]
 
Dinas hynafol yn yr [[Eidal]] yw '''Ravenna'''. Fe'i lleolir ger arfordir [[Môr Adria]] yn nhalaith [[Emilia-Romagna]], yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Mae'n borthladd a gystylltir â Môr Adria gan gamlas.
 
Roedd y boblogaeth y ''[[comune]]'' Ravenna yng nghyfrifiad 2011 yn 153,740.<ref>[https://www.citypopulation.de/php/italy-emiliaromagna.php?cityid=039014 City Population]; adalwyd 8 Mai 2018</ref>
 
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Ravenna gan y [[Sabiniaid]]. Bu'n ddinas o gyfnod yr [[Umbriaid]] ymlaen ac mae'n bosibl iddi gael ei gwladychu gan yr [[Etrwsciaid]]. Syrthiodd i'r [[Rhufeiniaid]] yn yr 2g CC. Cryfhawyd y ddinas gan yr ymerawdwr [[Augustus]], a adeiladwyd camlesi yno a phorthladd milwrol. Roedd yn brifddinas yr [[Ymerodraeth Rufeinig]] yn y Gorllewin ([[402]]-[[476]]), teyrnas yr [[Ostrogothiaid]] ([[476]]-[[526]]) a'r ''exarchate'' [[Ymerodraeth Fysantaidd|Bysantaidd]] ar ôl hynny ([[584]]-[[751]]). Yn 751 cafodd y ddinas ei meddianu gan y [[Lombardiaid]] a daeth yr Oes Aur i ben. Dirywiodd i fod yn dref fechan ddinod yn yr Oesoedd Canol. Yn [[1431]] fe'i cipiwyd gan Gweriniaeth [[Fenis]]. Dim ond ar ôl i'r wlad gael ei huno gan [[Garibaldi]] a sefydlu gwladwriaeth fodern yr Eidal y dechreuodd Ravenna adfywio. Erbyn heddiw mae'n ganolfan masnach a diwydiant ac mae'n un o atyniadau twristaidd mwyaf yr Eidal.
Llinell 7 ⟶ 10:
 
==Enwogion==
*[[Barbara Longhi]] (1552-16381552–1638), arlunydd
*[[Romolo Gessi]] (1831–1881), fforiwr
*[[Giuseppe Vitali]] (1875–1932), mathemategydd
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Dinasoedd a threfi'r Eidal]]