Palermo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
'''Palermo''' yw prifddinas ranbarthol [[Sisili]]. Yn ogystal â bod yn ganolfan weinyddol mae hi'n borthladd pwysig. Fe'i lleolir ar arfordir gogledd-orllewinol yr ynys.
 
Roedd y boblogaeth ypoblogaeth ''[[comune]]'' Palermo yng nghyfrifiad 2011 yn 657,561.<ref>[https://www.citypopulation.de/php/italy-sicilia.php?cityid=082053 City Population]; adalwyd 8 Mai 2018</ref>
 
Cafodd y ddinas ei sefydlu gan y [[Ffeniciaid]] yn yr [[8fed ganrif CC]]. Roedd yn ddinas bwysig dan y [[Groeg yr Henfyd|Groegiaid]] a'r [[Rhufeiniaid]] ond ni ddaeth yn brif ddinas yr ynys tan gyfnod yr [[Arabiaid]] ([[9g]] - [[11eg ganrif|11eg]]). Mae sawl adeilad hanesyddol yn y ddinas yn adlewyrchu'r diwylliant hybrid a flodeuai'r adeg honno ynddi. Codid adeiladau gwych yn yr [[Oesoedd Canol]] yn ogystal, gan gynnwys yr [[Eglwys Gadeiriol Palermo|eglwys gadeiriol]] ysblennydd a'r palas [[Normaniaid|Normanaidd]], sydd bellach yn sedd y [[senedd]] ranbarthol.