Golygu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: '''Golygu''' yw'r broses o baratoi iaith, delweddau, sain, fideo, neu ffilm drwy gywiro, crynhoi, trefnu, ac addasiadau eraill mewn gwahanol gyfryngau. ''…
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:57, 4 Ebrill 2009

Golygu yw'r broses o baratoi iaith, delweddau, sain, fideo, neu ffilm drwy gywiro, crynhoi, trefnu, ac addasiadau eraill mewn gwahanol gyfryngau. Golygydd yw'r enw a roddir ar berson sy'n golygu. Mewn ffordd, dechreua'r broses olygyddol gyda'r syniad gwreiddiol am y gwaith ac mae'n parhau ym mherthynas yr awdur a'r golygydd. Mae golygu felly yn dasg sy'n dibynnu ar sgiliau creadigol, perthynasau dynol a chyfres o ddulliau penodol.