Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Llandygái"

Ychwanegwyd 195 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
No edit summary
No edit summary
Yr adeilad mwyaf yn Llandygái yw [[Castell Penrhyn]], a adeiladwyd gan [[Arglwydd Penrhyn]] gyda'r arian a gafodd o dyfu siwgwr yn [[Jamaica]] a'r [[elw]] o [[Chwarel y Penrhyn]]. Mae'n awr yn eiddo i'r [[Ymddiriedolaeth Genedlaethol]].
 
Rhwng Llandygái a stad dai Maesgeirchen mae Stad Ddiwydiannol Llandygái. Wrth baratoi'r tir ar gyfer y stad ddiwydiannol yn 1967 darganfuwyd olion tŷ sylweddol o faint o'r cyfnod [[Neolithig]], 6 medr o led wrth 13 medr o hyd, ynghyd ag olion o [[Oes yr Efydd]], [[Oes yr Haearn]], cyfnod y [[Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeiniaid]] a mynwent o'r [[Canol Oesoedd]] cynnar. Mae'r stad ddiwydiannol yn awr yn cael ei ehangu. Cloddiodd [[Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd]] Parc Bryn Cegin yn [[2006]]<ref> http://www.heneb.co.uk/llandegaiweblog/llandygaiintro.html </ref> (cyn yr adeiladu), gan ddarganfod olion tŷ arall yn dyddio o oddeutu 4000CC ac olion neolithig eraill, yn ogystal ag olion dau dŷ crwn o gyfnod y [[Brython]]iaid a'r Rhufeiniaid, amrywiaeth o [[glain|leiniau]] gwydr ac artiffactau eraill, a thwmpathau llosg o'r [[oes efydd]]<ref>Cyfeillion 24 Friends, Cylchgrawn Ymddiriedolaeth Gwynedd, Gwanwyn 2006, tt. 11-24</ref>.
 
Heb fod ymhell o Landygái mae gwarchodfa adar Aberogwen, ar lan [[Traeth Lafan]].
 
Treuliodd y bardd [[Griffith Williams (Gutyn Peris)]] ([[1769]]-[[1838]]), un o ddisgyblion [[Dafydd Ddu Eryri]], y rhan helaeth o'i oes yn Llandygái. Gweithiai yn [[Chwarel y Penrhyn]].
 
==Cyfeiriadau==
<references/>
 
{{Trefi Gwynedd}}