Joseph Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Gwybodlen using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
Wedi gweithio mewn pwll glo ac yng ngwaith haearn [[Cyfarthfa]], ymfudodd gyda'i deulu yn [[1854]] i [[Pensylfania]], [[UDA]], lle gweithiodd mewn melin haearn. Cafodd flas ar astudio cerddoriaeth yno hefyd gan gystadlu mewn [[eisteddfod]]au lleol. Cafodd ysgoloriaeth i'r Adran Gerdd Frenhinol yn [[Llundain]] a derbyniodd radd MusB yn [[1871]] gan [[Prifysgol Caergrawnt|Brifysgol Caergrawnt]]. Yn wir, yn [[1874]] cafodd ddyrchafiad i fod yn Athro cerdd cynta'r coleg. Yna dychwelodd i Gymru i fod yn gyfrifol am Adran gerdd [[Prifysgol Caerdydd]].
 
Fe'i ganed ym 4 Chapel Row, [[Merthyr Tudful]].<ref>[http://welshmuseumsfederation.org/index.php?page=cyfarthfa-castle Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru]. Adalwyd 6 Mawrth 2013</ref> Ysgrifennodd lawer o ganeuon enwog, ac yn eu plith y mae: '[[Myfanwy]]', 'Hywel a Blodwen' a'r [[emyn-dôn]] '[[Aberystwyth (emyn-dôn)|Aberystwyth]]' a berfformiwyd gyntaf yn [[Stryd Portland, Aberystwyth]]. Cyfansoddodd yr opera gyntaf yn yr iaith Gymraeg, sef ''[[Blodwen]]''. Roedd yn gyfansoddwr toreithiog iawn; yn ystod ei oes ysgrifennodd chwech o operâu.
 
Bu farw ym [[Penarth|Mhenarth]], Bro Morgannwg yn 1903 a'i gladdu yn [[Eglwys Sant Awstin, Penarth|Eglwys Sant Awstin]] ym Mhenarth.