Hanes Llydaw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 86.151.212.145 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan VolkovBot.
BDim crynodeb golygu
Llinell 8:
 
Yn [[845]] crewyd teyrnas unedig yn Llydaw gan [[Nevenoe]] ([[Ffrangeg]]: Nominoë), Dug Llydaw, pan orchfygodd [[Siarl Foel]], brenin Ffrainc ym Mrwydr Ballon yn nwyrain Llydaw. Grorchfygwyd Siarl Foel eto gan y Llydawyr dan [[Erispoe]] ym Mrwydr Jengland yn [[851]], a bu raid i Siarl gydnabod annibyniaeth Llydaw.
 
==Colli ei hanibyniaeth==
 
Yn [[Rhyfel Olyniaeth Lydaw]], rhwng [[1341]] a [[1364]], fe wrthdarodd cynghreiriaid [[Lloegr]] yn erbyn cynghreiriaid Ffrainc. Yn [[1488]] gorchfygwyd byddin Llydaw gan fyddin Ffrainc, gyda chymorth 5,000 o filwyr cyflogedig o'r [[Swistir]] a'r [[Eidal]]. Gorfodwyd Dug Llydaw, Francis II, i arwyddo cytundeb yn rhoi yr hawl i Frenin Ffrainc benderfynu ar briodas ei ferch, [[Anna, Duges Llydaw|Anna]]. Y Dduges Anna oedd rheolwr olaf Llydaw annibynnol; gorfodwyd hi i briodi [[Louis XII, brenin Ffrainc]], a phan fu hi farw ymgorfforwyd Llydaw yn Ffrainc trwy Ddeddf Uno yn [[1532]]. Roedd gan Llydaw rywfaint o ymreolaeth o fewn Ffrainc tan [[1789]]. Gwrthryfel yn erbyn y [[Chwyldro Ffrengig]] oedd y ''[[Chouanted]]'', a gefnogwyd gan y Saeson.
 
==Yr Ugeinfed Ganrif hyd y presennol==
 
Datblygodd y [[Cenedlaetholdeb Llydewig|mudiad cenedlaethol Llydewig]] modern tua diwedd y [[19eg ganrif]] a dechrau'r [[20fed ganrif]]. Pan orchfygwyd Ffrainc gan [[Yr Almaen]] yn yr [[Ail Ryfel Byd]], bu hollt yn y mudiad cenedlaethol. Roedd rhai cenedlaetholwyr Llydewig yn amlwg yn y gwrthwynebiad arfog i'r Almaenwyr, tra dewisodd eraill megis [[Roparz Hemon]] gydweithio gyda'r Almaenwyr yn y gobaith o ennill annibyniaeth i Lydaw. Yn Rhagfyr [[1943]] llofruddiwyd [[Yann-Vari Perrot|yr Abbé Perrot]], cenedlaetholwr Llydewig amlwg, gan aelod o'r Blaid Gomiwnyddol, gan haeru ei fod yn cydweithio a'r Almaenwyr. Bu raid i eraill, megis Roparz Hemon, ffoi i Gymru ac [[Iwerddon]] ar ddiwedd y rhyfel, a bu adwaith cryf ar ran llywodraeth Ffrainc yn erbyn yr iaith a'r diwylliant Llydewig.
 
Pan rannwyd Ffrainc yn ranbarthau gweinyddol, nid oedd rhanbarth ''[[Bretagne]]'' ond yn cynnwys pedwar allan o'r pump ''departement'' oedd yn draddodiadol yn rhan o Lydaw. Ni chynhwyswyd [[Loire-Atlantique]], sy'n cynnwys [[Nantes]], un o ddwy brifddinas draddodiadol Llydaw. Bu dirywiad mawr yn sefyllfa'r iaith Lydaweg ers [[1945]]; mewn llawer o ardaloedd lle siaredid yr iaith, magwyd plant a aned ers y cyfnod yma yn uniaith Ffrangeg. Ers y 1970au bu cynnydd mewn diddordeb yn iaith a diwylliant Llydaw, yn arbennig mewn cerddoriaeth, lle daeth [[Alan Stivell]] yn adnabyddus. Mae mudiad [[Diwan]] wedi sefydlu ysgolion Llydaweg i geisio achub yr iaith.
 
Ar [[16 Mawrth]] [[1978]], drylliwyd y llong ''[[Amoco Cadiz]]'' gerllaw porthladd bychan [[Portsall]] yn [[Ploudalmézeau]]. Collwyd rhan helaeth o'i llwyth o [[olew]] i'r môr, gan greu difrod mawr ar draethau gogleddol Llydaw.