Tiriogaethau dibynnol y Goron: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B dol
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
[[Delwedd:British Crown Dependencies.svg|300px|bawd|Lleoliad tiriogaethau dibynnol y Goron (coch) yn [[Ynysoedd Prydain ac Iwerddon]].]]
Tair tiriogaeth ger [[Prydain Fawr]] – [[Ynys Manaw]], [[Ynys y Garn|Beilïaeth Ynys y Garn]], a [[Jersey|Beilïaeth Jersey]] – a chanddynt statws arbennig dan awdurdod [[y Goron Brydeinig]] yw '''tiriogaethau dibynnol y Goron'''. Nid ydynt yn rhan o'r [[Y Deyrnas Unedig|Deyrnas Unedig]] nac yn [[tiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig|diriogaethau Prydeinig tramor]]. Nid ydynt ychwaith yn wledydd [[sofraniaeth|sofran]], a chaiff eu cydnabod yn rhyngwladol yn "diriogaethau dan gyfrifoldeb y Deyrnas Unedig".
 
Nid ydynt yn aelod-wladwriaethau'r [[Y Gymanwlad|Gymanwlad]] er eu bod yn danfon timau eu hunain i [[Gemau'r Gymanwlad]]. Nid yw'r tiriogaethau hyn yn rhan o'r [[Undeb Ewropeaidd]], ond maent yn rhan o ardal dollau yr UE. Er nad oes ganddynt annibyniaeth sofran, maent yn cynnal cysylltiadau â'r Gymanwlad, yr UE, a sefydliadau rhyngwladol eraill ac yn aelodau [[Cyngor Prydain-Iwerddon]].