Hanes Llydaw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B sillafu
Llinell 9:
Yn [[845]] crewyd teyrnas unedig yn Llydaw gan [[Nevenoe]] ([[Ffrangeg]]: Nominoë), Dug Llydaw, pan orchfygodd [[Siarl Foel]], brenin Ffrainc ym Mrwydr Ballon yn nwyrain Llydaw. Grorchfygwyd Siarl Foel eto gan y Llydawyr dan [[Erispoe]] ym Mrwydr Jengland yn [[851]], a bu raid i Siarl gydnabod annibyniaeth Llydaw. Roedd gan Llydaw ei [[Brenhinoedd a dugiaid Llydaw|brenhinoedd a'r breninesau]] ei hun.
 
==Colli ei hanibyniaethhannibyniaeth==
 
Yn [[Rhyfel Olyniaeth Lydaw]], rhwng [[1341]] a [[1364]], fe wrthdarodd cynghreiriaid [[Lloegr]] yn erbyn cynghreiriaid Ffrainc. Yn [[1488]] gorchfygwyd byddin Llydaw gan fyddin Ffrainc, gyda chymorth 5,000 o filwyr cyflogedig o'r [[Swistir]] a'r [[Eidal]]. Gorfodwyd Dug Llydaw, Francis II, i arwyddo cytundeb yn rhoi yr hawl i Frenin Ffrainc benderfynu ar briodas ei ferch, [[Anna, Duges Llydaw|Anna]]. Y Dduges Anna oedd rheolwr olaf Llydaw annibynnol; gorfodwyd hi i briodi [[Louis XII, brenin Ffrainc]], a phan fu hi farw ymgorfforwyd Llydaw yn Ffrainc trwy Ddeddf Uno yn [[1532]]. Roedd gan Llydaw rywfaint o ymreolaeth o fewn Ffrainc tan [[1789]]. Gwrthryfel yn erbyn y [[Chwyldro Ffrengig]] oedd y ''[[Chouanted]]'', a gefnogwyd gan y Saeson.