Eglwys Fethodistaidd Prydain Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: br:Hentennouriezh (Breizh-Veur)
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
==Wesleaeth yng Nghymru==
 
Bu John Wesley yn pregethu yng Nghymru nifer o wethiau, ond cyfyngwyd ar ei lwyddiant gan anawsterau iaith. Y [[Methodistaid Calfinaidd]], gan arweiniaid [[Daniel Rowland]] a [[Howell Harris]] oedd y cryfaf o lawer o’r enwadau Methodistaidd yng Nghymru. Roedd rhywfaint o gydweithrediad rhwng y ddau fudiad, ond roedd gwahaniaethau diwinyddol hefyd, gyda’r Wesleaid yn coleddu [[Arminiaeth]] yn hytrach na [[Calfiniaeth| Chalfiniaeth]]. Chwaraeodd [[Edward Jones (Bathafarn) le pwysig yn sefydlu'r enwad: ''Lleinw le pwysig yn hanes cynnar yr enwad yn rhinwedd ei waith fel arloeswr yn Rhuthun a'r cyffiniau cyn i'r genhadaeth Gymraeg gael ei chreu ac oblegid ei lafur diflino fel gweinidog Cymraeg.''

Ar y cyntafcychwyn, sefydlwyd capeli Wesleaidd yn bennaf mewn ardaloedd lle roedd nifer sylweddol o ymfudwyr o Loger neu o gwmpas y gororau. Mae capel [[Aberriw]] ym Mhowys yn enghraifft gynnar, yn dyddio o 1797. Capel Cymraeg cyntaf y Wesleaid oedd Capel Pendref, [[Dinbych]], yn [[1802]]. Adwaenir yr enwad yng Nghymru fel '''Eglwys Fethodistaidd (Cymru)'''.