Tôn (iaith): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 11:
 
Mae nifer o ieithoedd yn defnyddio tôn mewn ffordd fwy cyfyngedig. Mae gan [[Somali]] er enghraifft ond un tôn i bob gair. Yn [[Japaneg]] mae gan lai na hanner y geiriau ostyngiad yn y traw; mae geiriau yn cyferbynnu yn ôl y sillaf y mae'r gostyngiad yn dilyn. Weithiau fe elwir systemau cyfyngedig o'r math hwn yn [[accen traw]] er nad oes gan y gair hwn ddiffiniad cydlynol.
 
Yn [[Ewrop]] mae elfennau tonyddol gan [[Norwyeg]], [[Swedeg]] a [[Lithwaneg]], ond fel arfer fe elwir y manion tonyddol hyn yn [[accen traw]]. [[Ieithoedd Indo-Ewropeaidd]] eraill sydd â thonyddiaeth yw ieithoedd India fel [[Punjabi]] a [[Ieithoedd Lahanda|Lahanda]].
 
Mae'r rhan fwyaf o ieithoedd Affrica is-Sahara (heblaw am [[Swahili]], [[Wolof]] a [[Fulani]]) yn donyddol. Mae [[Hausa]] yn donyddol er ei bod yn perthyn i'r [[ieithoedd Semitaidd]] nad sy'n donyddol.
 
Mae yna nifer o ieithoedd tonyddol y Nwyrain Asia, gan gynnwys pob tafodiaeth [[Tsieinëeg]] (er fe ystyrir [[Shanghainëeg]] i fod ag accen traw yn unig), [[Fietnameg]], [[Thai]], [[Lao]], a [[Burmeg]] a rhai tafodiaethau [[Tibeteg]]. Ond nid yw [[Japaneg]], [[Mongoleg]] na [[Corëeg]] yn donyddol.
 
Mae gan rai o'r ieithoedd cynfrodorol America donyddiaeth, yn enwedig [[ieithoedd Na-Dené]] [[Alaska]], ieithoedd [[Navajo]] ac yr ieithoedd Oto-Manguean yn [[Mecsico]]. Mae rhai o'r ieithoedd Mayan wedi datblygu tonau yn y ganrif ddiwethaf.
 
==Tôn fel nodwedd gwahaniaethu==