Alban Elfed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dolen |
Naw Nos Olau |
||
Llinell 4:
[[Iolo Morganwg]] a fathodd y gair 'alban' (a'r term 'Alban Elfed') ar ddiwedd y [[18g]] i ddynodi un o'r pedwar chwarter mewn blwyddyn. Yr ŵyl draddodiadol Gymreig agosaf iddi oedd Calan Hydref, a ddathlid ar y 1af o Hydref.
Arferid galw'r lleuad llawn cynta ar ôl Cyhydnos yr hydref (22ain o Fedi) yn 'Lleuad Fedi' neu 'Leuad y Cynheuaf', pryd y ceid y 'Naw Nos Olau'. Byddai'r Naw Nos Olau yn eithriadol o bwysig i ffermwyr ar un adeg oherwydd ei goleuni llachar - bron fel golau dydd am o leia' y 4 noson cyn, ac ar ôl y lleuad llawn ei hun. Roedd hyn yn eithriadol o hwylus at gario'r ysgubau [[ŷd]] i'r teisi ac am y byddai'r lleuad yn codi hefo'r machlud gellid dal ati i gario o'r caeau (h.y. cyn dyddiau'r dyrnwr medi) ymhell i'r nos – hyd y wawr pe bai angen.
== Gweler hefyd ==
|