Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwener (planed)"

Ychwanegwyd 2,068 beit ,  2 flynedd yn ôl
mewnforio gwaith Twm
B (Wedi gwrthdroi golygiadau gan 148.252.129.74 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan BOT-Twm Crys.)
Tagiau: Rollback
(mewnforio gwaith Twm)
[[Delwedd:Venus-real color.jpg|200px|bawd|Y blaned Gwener yn ei lliwiau cywir]]
[[Delwedd:Venus globe.jpg|200px|bawd|Llun radar o'r blaned Gwener]]
[[Delwedd:GOES-15 SXI 2012 VenusTransit.ogv|bawd|chwith|Gwener yn croesi o flaen yr haul; Mehefin 2012.]]
'''Gwener''' yw'r ail blaned yng [[Cysawd yr Haul|Nghysawd yr Haul]], 67,200,000 milltir oddi wrth yr [[Haul]] ar gyfartaledd, wedi'i henwi ar ôl [[Gwener (duwies)|duwies Rufeinig]] cariad. Yr enw poblogaidd arni yw '''Seren y dydd'''. Ar lafar, ei henw yw '''Seren y Gweithiwr'''.
 
Nid oes [[planed]] sy'n cyrraedd mor agos i'r [[Y Ddaear|Ddaear]] â Gwener pan bo hi ar ei hagosaf atom: 24 miliwn milltir. Mae hi o gwmpas yr un maint, cyfaint (0.92), trwch (4.99 ar raddfa seiliedig ar drwch [[dŵr]]) a chrynswth (0.81) â'r Ddaear. Mae [[awyrgylch]] Gwener yn drwm ac yn [[niwl]]og ac o ganlyniad mae ei hwyneb yn guddiedig; mae'r niwl yn adlewyrchu golau'r haul hefyd ac mae hynny'n ei gwneud hi'n un o'r gwrthrychau mwyaf disglair yn y nefoedd. Mae probau diweddar wedi darganfod fod wyneb y blaned wedi'i britho â [[Crater|chraterau]] a rhychau, nid annhebyg i'r rhai a welir ar wyneb y Lleuad.
[[Delwedd:GOES-15 SXI 2012 VenusTransit.ogv|bawd|chwith|Gwener yn croesi o flaen yr haul; Mehefin 2012.]]
 
Oherwydd ei chymylau trwchus, sy'n adlewyrchu'r haul mor dda, ychydig iawn a wyddem amdani tan yn lled ddiweddar. Hyd yn oed cyn hwyred a'r 1960au tybid bod ei hwyneb yn gefnforoedd eang a bod rhannau ohonni, efallai, yn fforestydd tebyg i'r hyn oedd ar y ddaear adeg ffurfio'r [[Maes glo|meusydd glo]]. Roedd posibiliadau o'r fath yn sbardun enfawr i ddychymyg awduron [[ffuglen wyddonol]] gan gynnwys ''Dan Dare'' a'r 'Fenwsiaid' yn y comic ''The Eagle'' yn y [[1950au]]. Ac yn ei stori fer enwog, ''The Illustrated Man'', disgrifia [[Ray Bradbury]] helynt teithwyr gofod ar Gwener yn ceisio lloches rhag y glaw parhaus. Roedd o'n rhannol gywir – mae hi yn bwrw'n barhaus yno – ond am fod wyneb y blaned mor boeth dydy'r glaw byth yn cyrraedd y llawr. Fe ddisgyna o tua 20 milltir uwchben y wyneb, ond try'n ager ar uchder o tua 10 milltir!
Mae sawl chwiliedydd gofod wedi ymweld â'r blaned ers y 60au cynnar, gan gynnwys nifer o chwiliedyddion Rwsieg, ac hefyd rhai a lawnsiwyd gan [[NASA]]. Darganfyddwyd fod Gwener yn llawer poethach na'r [[Ddaear]] achos bod ganddi gryf [[effaith tŷ gwydr]].
 
Rhaid oedd aros tan i [[Chwiliedydd gofod|chwiliedyddion]] Rwsiaidd, yng nghyfres 'Venera' a 'Vega', lanio ar Gwener rhwng 1970 a 1984, cyn y cawsom wybodaeth gywir am ei natur. Darganfyddwyd fod Gwener yn llawer poethach na'r [[Ddaear]] achos bod ganddi gryf [[effaith tŷ gwydr]]. Ers hynny llwyddwyd i fapio ei nodweddion daearyddol yn fanwl a chytunwyd, drwy'r Undeb Astronomegol Ryngwladol, ar enwau iddynt. Nid yn annisgwyl, enwau merched sydd i'r mwyafrif ohonynt, e.e. enwyd 'cyfandir' o lif folcanig ar ôl [[Aphrodite]], duwies cariad [[Mytholeg Roeg|y Groegiaid]]; crater anferth ar ôl y gantores [[Billie Holiday]] ac ucheldir [[Lada]] ar ôl y dduwies [[Slafiaid|Slafaidd]] (nid y car!). Mae yma gysylltiad Cymreig hefyd – ceir ucheldir 'Guinevere', neu Gwenhwyfar ac enwyd rhes o fynyddoedd ar ôl y gwyddonydd [[Albanwyr|Albanaidd]], [[James Clerk Maxwell]]. Ef, druan ohono, yw'r unig ddyn ar y blaned!
Crewyd y llun radar (dde) gan y chwiliedydd gofod Magellan, a gafodd ei lawnsio yn y 80au hwyr.
 
Gan fod Gwener yn nes i'r haul na'r Ddaear, fe fydd ei hymddanghosiad yn newid, yn union fel y lleuad, o lawn i hanner i chwarter ayyb; hynny yw, mae ganddi ei Chynnydd a'i Gwendid. Mae'n eitha hawdd gweld hynny os edrychwch arni drwy sbienddrych go dda, neu [[Telesgop|delisgop]].
 
Fydd hi byth yn crwydro ymhell o'r haul, chwaith, a bydd i'w gweld, ar ei hamlycaf, ychydig cyn y wawr neu ar ôl y machlud. Dyma pam y'i gelwir hi'n "Seren y Gweithiwr", gan ei bod yn codi gyda'r wawr, neu yn "Seren y Machlud". Mewn gwirionedd, cyfeirir atynt ym mytholeg Groeg fel dwy seren a cheid yr enwau Hesperus arni yn ei chyflwr boreuol a Phosphorus gyda'r nos.
 
{{planedau}}
19,561

golygiad