Gwener (planed): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
mewnforio gwaith Twm
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
2
Llinell 13:
 
Fydd hi byth yn crwydro ymhell o'r haul, chwaith, a bydd i'w gweld, ar ei hamlycaf, ychydig cyn y wawr neu ar ôl y machlud. Dyma pam y'i gelwir hi'n "Seren y Gweithiwr", gan ei bod yn codi gyda'r wawr, neu yn "Seren y Machlud". Mewn gwirionedd, cyfeirir atynt ym mytholeg Groeg fel dwy seren a cheid yr enwau Hesperus arni yn ei chyflwr boreuol a Phosphorus gyda'r nos.
 
===Eicon Sosialaidd===
Daeth Seren y Gweithiwr, yn arbennig, yn eicon pwysig i'r mudiad sosialaidd yn yr [[20g]] ganrif, gan ymddangos yn amlach ar faneri'r gwledydd Comiwnyddol na hyd yn oed y morthwyl a'r cryman a'r llu o symbolau eraill oedd yn arwyddo goruchafiaeth (honedig) y [[proletariat]]. Fe'i gwelir hyd heddiw ar faner [[Tsieina]], [[Angola]], [[Y Congo]], [[Ciwba]], [[Gogledd Corea]], [[Mosambic]] a [[Fietnam]] ac arferai gael lle amlwg ar faneri yr hen Rwsia neu'r [[USSR]], yr hen [[Iwgoslafia]] ac amryw o wledydd eraill. Yn nes adre cawsai amlygrwydd ar faneri a phosteri'r [[Undebau Llafur]] a hi yw arwyddlun y cwmni bwsiau o Ddyffryn Nantlle – Y Seren Arian – a gychwynodd ei yrfa, lawer blwyddyn yn ôl, yn cludo chwarelwyr yr ardal i'w gwaith yn y boreuau.
 
===Cysylltiadau dwyfol a Cheltaidd===
Gwener oedd duwies cariad a harddwch [[y Rhufeiniaid]] a gyflawnai swyddogaeth debyg iawn i Aphrodyte'r Groegiaid. Ond nid delweddau o'r fath geir i'r blaned gan bawb o bobol y byd. I'r [[Tsieineaid]], mae gwyn llachar yn anlwcus ac ysbrydaidd ac mae'r blaned yn cynrychioli dial a chosb. I'r [[Maya]] roedd y blaned yn un rhyfelgar – hi oedd y seren-dduw Quetzalcoatl a byddai'r bobl yn cau eu drysau a'u ffenestri rhag pelydrau'r duw peryglus hwn pan ymddangosai yn y boreau. I'r Swmeriaid ei henw oedd Ishtar, oedd yn un o drindod yr haul, y lleuad a hithau. Roedd Ishtar yn dduwies cariad, ffrwythlondeb a rhyfel.
 
Mae'n anodd adnabod duwies gyfatebol i Gwener ym mytholeg y [[Celtiaid]], yn enwedig yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon. Mae'n ymddangos bod duwiesau ein cyndeidiau ni yn llawer amlach eu doniau ac yn meddu ar gyfuniad o ffrwythlondeb, crefft, a'r gallu i wella yn ogystal a rhywioldeb, er yn amrywio ym mhwyslais a'u swyddogaethau o un llwyth, cwlt, a lle cysegredig, i'r llall. Ond yng nghyfnod goruchafiaeth y Rhufeiniaid ceir sawl allor Celtaidd i Gwener ar hyd a lled Ewrop.
 
{{planedau}}