Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwener (planed)"

Ychwanegwyd 797 beit ,  2 flynedd yn ôl
{{Nodyn:Priodoliad Twm Elias|: Gwyddoniadur Cymru|Gwasg y Brifysgol}}
(2)
({{Nodyn:Priodoliad Twm Elias|: Gwyddoniadur Cymru|Gwasg y Brifysgol}})
Fydd hi byth yn crwydro ymhell o'r haul, chwaith, a bydd i'w gweld, ar ei hamlycaf, ychydig cyn y wawr neu ar ôl y machlud. Dyma pam y'i gelwir hi'n "Seren y Gweithiwr", gan ei bod yn codi gyda'r wawr, neu yn "Seren y Machlud". Mewn gwirionedd, cyfeirir atynt ym mytholeg Groeg fel dwy seren a cheid yr enwau Hesperus arni yn ei chyflwr boreuol a Phosphorus gyda'r nos.
 
===Eicon Sosialaidd===
Daeth Seren y Gweithiwr, yn arbennig, yn eicon pwysig i'r mudiad sosialaidd yn yr [[20g]] ganrif, gan ymddangos yn amlach ar faneri'r gwledydd Comiwnyddol na hyd yn oed y morthwyl a'r cryman a'r llu o symbolau eraill oedd yn arwyddo goruchafiaeth (honedig) y [[proletariat]]. Fe'i gwelir hyd heddiw ar faner [[Tsieina]], [[Angola]], [[Y Congo]], [[Ciwba]], [[Gogledd Corea]], [[Mosambic]] a [[Fietnam]] ac arferai gael lle amlwg ar faneri yr hen Rwsia neu'r [[USSR]], yr hen [[Iwgoslafia]] ac amryw o wledydd eraill. Yn nes adre cawsai amlygrwydd ar faneri a phosteri'r [[Undebau Llafur]] a hi yw arwyddlun y cwmni bwsiau o Ddyffryn Nantlle – Y Seren Arian – a gychwynodd ei yrfa, lawer blwyddyn yn ôl, yn cludo chwarelwyr yr ardal i'w gwaith yn y boreuau.
 
===Cysylltiadau dwyfol a Cheltaidd===
Gwener oedd duwies cariad a harddwch [[y Rhufeiniaid]] a gyflawnai swyddogaeth debyg iawn i Aphrodyte'r Groegiaid. Ond nid delweddau o'r fath geir i'r blaned gan bawb o bobol y byd. I'r [[Tsieineaid]], mae gwyn llachar yn anlwcus ac ysbrydaidd ac mae'r blaned yn cynrychioli dial a chosb. I'r [[Maya]] roedd y blaned yn un rhyfelgar – hi oedd y seren-dduw Quetzalcoatl a byddai'r bobl yn cau eu drysau a'u ffenestri rhag pelydrau'r duw peryglus hwn pan ymddangosai yn y boreau. I'r Swmeriaid ei henw oedd Ishtar, oedd yn un o drindod yr haul, y lleuad a hithau. Roedd Ishtar yn dduwies cariad, ffrwythlondeb a rhyfel.
 
Mae'n anodd adnabod duwies gyfatebol i Gwener ym mytholeg y [[Celtiaid]], yn enwedig yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon. Mae'n ymddangos bod duwiesau ein cyndeidiau ni yn llawer amlach eu doniau ac yn meddu ar gyfuniad o ffrwythlondeb, crefft, a'r gallu i wella yn ogystal a rhywioldeb, er yn amrywio ym mhwyslais a'u swyddogaethau o un llwyth, cwlt, a lle cysegredig, i'r llall. Ond yng nghyfnod goruchafiaeth y Rhufeiniaid ceir sawl allor Celtaidd i Gwener ar hyd a lled Ewrop.
 
==Seryddiaeth==
{{planedau}}
Creda [[seryddiaeth|seryddwyr]] bod y planedau yn dylanwadu'n drwm ar bobl. Yn ''Seryddiaeth, neu Lyfr Gwybodaeth yn Dangos Rheoliad y Planedau ar Bersonau Dynion'', Llanrwst (1830), dywed Robert Roberts (mab i [[John Roberts (Sion Robert Lewis)|John Roberts]], ''[[Almanac Caergybi]]''): “Y mae y blaned hon (Gwener) i'w chyfri yn blaned fawr… a'i natur yw gwneud priodasau, uno pobloedd trwy chwant; hon sy'n rheoli yr arenau, a'r natur yn y rhan honno sy'n peri carwriaeth a serch cnawdol y naill at y llall… Y mae'r bobl yma o dymer lawen, ysmala, yn hoffi bod mewn cwmni ysmala, sef mewn tafarnau, yfed diodydd cryfion mewn llawenydd a hawddgarwch, canu cerddi gwagedd, chwerthin, dawnsio, a tharo penill gyda'r tannau…”
{{Eginyn seryddiaeth}}
 
{{planedau}}
{{Nodyn:Priodoliad Twm Elias|: Gwyddoniadur Cymru|Gwasg y Brifysgol}}
[[Categori:Planedau Cysawd yr Haul]]
19,561

golygiad