Llanfwrog, Sir Ddinbych: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up, replaced: 14eg ganrif → 14g, 6ed ganrif → 6g using AWB
CnauPell (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Llanfwrog local - geograph.org.uk - 110011.jpg|250px|bawd|Llanfwrog: canol y pentref]]
[[Delwedd:Llanfwrog parish church - geograph.org.uk - 110008.jpg|250px|bawd|Eglwys plwyf Llanfwrog gyda [[Bryniau Clwyd]] yn y cefndir.]]
Pentref bychan a phlwyf eglwysig ger [[Rhuthun]] yn [[Sir Ddinbych]] yw '''Llanfwrog''' ({{Sain|Llanfwrog, Sir Ddinbych.ogg|ynganiad}}). Fe'i lleolir fymryn i'r de-orllewin o dref Rhuthun yn rhan uchaf [[Dyffryn Clwyd]] ar y ffordd B5105 sy'n cysylltu Rhuthun a [[Cerrigydrudion|Cherrigydrudion]]. Pentref ar wahân fu Llanfwrog tan yn ddiweddar, ond gyda chodi tai newydd rhyngddo a Rhuthun mae'r pentref wedi troi'n fath o faesdref i'r dref honno erbyn heddiw.
 
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Llanfwrog gan Sant [[Mwrog]] (6g efallai). Cysylltir y sant hwnnw â [[Llanfwrog, Ynys Môn|Llanfwrog]] arall ar [[Ynys Môn]] hefyd. Mae'r eglwys, a gysegrir i Fwrog a'r [[Forwyn Fair]], yn hynafol. Saif ar godiad tir ger y B5105. Mae ganddi dŵr sgwâr o gerrig [[calchfaen]] yn ei phen gorllewinol a addurnir a meini [[tywodfaen coch]]. Ceir corff (''nave'') dwbl, ffurf sy'n nodweddiadol o bensaernïaeth hen eglwysi Dyffryn Clwyd. Ychwanegwyd yr ail yn y 14g.<ref>''North Wales'' yn y gyfres 'Traveller's Guides' (Dartman, Longman a Todd, d.d.), tud. 67.</ref>